Cost of Living Support Icon

 

Diweddariad ynghylch Croesfan Sebra Sili

Mae croesfan pâl newydd yn cael ei gosod yn Heol y De yn Sili; bydd y groesfan newydd yn disodli’r groesfan sebra sydd yno ar hyn o bryd.

 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg


 

Puffin Crossing

South Road Sully  map

Mae croesffyrdd twcan yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel croesi’r ffordd. Mae’r symbolau Dyn Coch/Gwyrdd ar yr un ochr o’r heol â’r un rydych chi’n sefyll arni, gan eich galluogi felly i wylio'r signalau a'r traffig ar yr un pryd. 

 

 

Mae cyfleuster pwyso botwm wedi ei roi dros dro yn y lleoliad i gynorthwyo cerddwyr a phlant ysgol yn ystod cyfnod gosod y groesfan newydd.

 

Bydd y gwaith yn para 3 wythnos a bydd angen signalau traffig dros dro i weithredu’r groesffordd yn ddiogel.

 

Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu anghyfleustra fydd yn codi yn ystod y gwelliant angenrheidiol hwn i ddiogelwch ffyrdd Sili a byddwn yn ceisio amharu cyn lleied â phosibl.

 

Cynghorir traffig sydd fel arfer yn defnyddio Heol y De yn Sili i gynllunio o flaen llaw ac ystyried dilyn ffordd wahanol pan fo hynny’n bosibl yn ystod y gwaith hwn, er mwyn osgoi tagfeydd.

 

Ddim yn siŵr sut i ddefnyddio croesfan pâl? Mae fideo The Puffin Good Practice wedi ei datblygu gan yr Adran Drafnidiaeth a Chymdeithas y Syrfewyr Sirol.