Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg i nodi Coffau Diwrnod Cofio’r Holocost gyda arddangosfa newydd 

Mae arddangosfa i ddathlu Diwrnod Cofio’r Holocost wedi agor yn Celf Canolog, Y Barri. 

 

  • Dydd Llun, 22 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae artistiaid Michal Iwanowski a Thairien Kingwedi wedi creu darn o’r enw ‘The Power of Words’, i gyfleu sut mae geiriau yn gallu effeithio a gwneud gwahaniaeth i’n bywydau

 

Clear_of_People#45

Thema'r flwyddyn yma yw ‘The Power of Words’, wedi eu cymryd o Goffau Diwrnod Cofio’r Holocost 2018, sydd yn hybu’r digwyddiad ar draws y wlad.

 

Grëwyd y casgliad ‘Clear of People’ gan Michal Iwanowski, sydd yn dangos y siwrnai ingol a wnaed gan Dad-cu a Hen Ewythr yr artist wrth iddynt gerdded mwy na 2000 cilomedr o Rwsia i Wlad Pwyl ym 1945.

 

Agorodd yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr, ac mi fydd yn aros tan ddydd Sadwrn 24 Chwefror. 

 

Mi fydd cyfle i glywed o’r arlunydd ar Goffau Diwrnod Cofio’r Holocost 2018, sydd ar ddydd Sadwrn 27 Ionawr o 11yb, yn Celf Canolog. 

 

Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau yn y dyfodol.