Cost of Living Support Icon

 

Darganfyddwch gyfleoedd wirfoddoli yn Y Fro a helpwch wneud gwahaniaeth yn y flwyddyn newydd 

Os ydych chi a diddordeb gwirfoddoli yn y flwyddyn newydd, mae bron 500 o gyfleoedd ar gael drwy’r Gwasanaethau Gwirfoddoli Morgannwg. 

 

  • Dydd Llun, 08 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



Mae gwirfoddoli yn gallu helpu codi hyder a datblygu sgiliau newydd, yn ogystal â gwella eich iechyd a lles, a chynnig cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd hefyd.

 

Os ydych chi’n fyw neu eisiau gwirfoddoli yn y Fro, nail ai tu fewn neu du fas, yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau, gallwch ffeindio gyfleoedd drwy Wasanaethau Gwirfoddoli Morgannwg. 

 

 

Mae bron 500 o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy’r gwasanaeth,  yn cynnwys gwirfoddoli gyda phlant, pobl ifanc, mewn ysbytai a hosbisau, ac o fewn y byd chwaraeon a llawer mwy.

 

Enillodd gwirfoddolwr Steve Hunt, 70, o’r Fro, Gwirfoddolwr gwyrdd y flwyddyn yng Nghymru flwyddyn diweddaf. 

 

 

 

volunteers

Dywedodd Steve Hunt: "Rwy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored ac yn meddwl bod gwirfoddoli yn rhoi boddhad mawr - yn enwedig wrth weld y newidiadau i un o fy hoff barciau.

 

"Rwyf bob amser yn trio gwirfoddoli, ni waeth y tywydd, ac yn clirio coed, gosod giatiau newydd a chreu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt. 

 

"Byddwn yn argymell gwirfoddoli i bawb, yn enwedig i bobl sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored."

 

 

 

Os ydych chi a diddordeb gwirffodoli yn y Fro, cysylltwch GVS ar 01446 741706 neu ebostiwch volunteering@gvs.wales

 

 

 

Cymerwch olwg ar y wefan am wahanol gyfleoedd ar draws y Fro.