Cost of Living Support Icon

 

Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Deri yn ennill MBE

MAE Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Deri, Tim Exell, wedi ennill MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y Frenhines am ei wasanaethau i addysg anghenion arbennig yng Nghymru.

 

  • Dydd Iau, 04 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg

    Penarth



Arferai Tim fod yn Llywodraethwr yn Ashgrove, a oedd yn darparu ar gyfer plant ag awtistiaeth, cyn cymryd ei swydd bresennol ar ôl i'r ysgol honno uno â Maes Dyfan ac Ysgol Erw'r Delyn i greu Ysgol y Deri.

 

Mae’r ysgol newydd yn arweinydd yn ei maes, gydag un athrawes, Lisa Rees-Renshaw, yn ennill gwobr addysgu fawreddog am ei gwaith yn helpu disgyblion i gyfathrebu gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol, sydd wir wedi newid bywydau.

 

Dechreuodd Tim ei yrfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyn symud i swyddi Dirprwy Bennaeth yn Swydd Gaerlleon a Swydd Buckingham.


Yn 2000, dechreuodd weithio gydag elusen ym Manceinion o’r enw Seashell Trust, sy’n rhoi addysg a gofal i blant a phobl ifanc ag anableddau niwrolegol dwys a chymhleth.


Wyth mlynedd yn ddiweddarach, daeth yn gyfarwyddwr yr elusen, ac mae bellach yn llywydd. 

 

timexell“Mae’r wobr hon i’r bobl yr wyf wedi gweithio gyda nhw a’r disgyblion. “Rwy’n falch drostyn nhw hefyd.


"Mae Ysgol y Deri wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt. Gweithiais ar uno’r ysgolion, ac roedd cryn heriau wrth geisio dod â thair ysgol, a thair ysgol ardderchog, at ei gilydd. Ond roedd yn her y gwnaeth y staff ei thaclo. 


“Y newid yr wyf i wedi'i weld yw bod addysg anghenion arbennig bellach i’w gweld mewn ysgolion arbennig.” - Tim Exell

 

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae anrhydedd Tim yn haeddiannol a daeth yn sgil gyrfa ddylanwadol, sydd wedi arwain ato’n gwneud cyfraniad mawr iawn at addysg plant ledled y wlad.


“Ar ôl cyfnodau’n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Swydd Gaerlleon a Swydd Buckingham, ers 2004 mae Tim wedi bod yn Llywodraethwr ar ysgolion yn y Fro sy'n gweithio dros blant ag anghenion addysgol arbennig.


“Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn rhan o’r gwaith o uno Maes Dyfan, Ysgol Erw’r Delyn ac Ysgol Ashgrove i greu Ysgol y Deri, sydd wedi dod yn arweinydd ymysg ysgolion o’i math. Mae llawer o’r llwyddiant hwnnw wedi dod yn sgil ymrwymiad ac ymdrech Tim, a hoffwn ei longyfarch am y gydnabyddiaeth haeddiannol hon."