Cost of Living Support Icon

 

Barnodd adroddiad Estyn 2018 Ysgol Gynradd Cogan yn gymuned ofalgar dros ben  

Barnwyd Ysgol Gynradd Cogan i fod yn arbennig o ran gofal, cymorth ac arweiniad ac arweinyddiaeth a rheoli mewn adroddiad Estyn 2018.

 

  • Dydd Mawrth, 17 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



 

Cafodd ei ystyried yn Dda ar gyfer safonau, lles ac agweddau at ddysgu ac addysgu, a phrofiadau dysgu.

 

Ym mis Mai eleni, dywedodd arolygwyr fod yr ysgol, sydd â chanolfan adnoddau clywedol i blant, wrth wraidd ei chymuned ac yn rhoi amgylchedd dysgu diogel, croesawgar ac ysgogol i’w disgyblion.

 

Nodwyd bod y pennaeth, a ddisgrifiwyd fel model rôl medrus, proffesiynol, a’r dirprwy bennaeth wedi sefydlu gweledigaeth enghreifftiol, gynhwysol y mae’r holl staff yn ei rhannu. Mae yna ddisgwyliadau clir gan arweinwyr fod disgyblion, athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu’n gweithio’n galed ac yn gwneud eu gorau glas. O ganlyniad, canfu’r adroddiad fod yr ysgol wedi cynnal safonau uchel ym mron pob maes dros gyfnod hir o amser.

 

Roedd yr adroddiad yn datgan bod y disgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, wedi gwneud y cynnydd disgwyliedig o leiaf yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol ac roedd rhai wedi rhagori ar eu targedau.

 

Llwyddodd mwyafrif y disgyblion yn y ganolfan adnoddau i wneud cynnydd da mewn perthynas â’u man cychwyn, ac roedd rhai wedi gwneud cynnydd arbennig o dda.

 

Cafodd yr ysgol ei nodi am dalu sylw da i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh y disgyblion. Barnwyd bod safon y dysgu yn dda yn gyffredinol, ac roedd mwyafrif yr athrawon yn gosod safonau uchel ar gyfer ymddygiad ac ansawdd gwaith.

 

Disgrifiwyd yr ysgol hefyd fel cymuned ofalgar dros ben, sy’n meithrin perthnasau gwaith ardderchog rhwng staff, disgyblion, rhieni a’r gymuned ehangach.

 

Dywedodd Susan Sibet, Prif athrawes Ysgol Gynradd Cogan: “Rydym wrth ein bodd gyda'r adroddiad, sydd yn cydnabod yr arweinyddiaeth a'r tîm profiadol rhagorol, a sut mae ein plant yn dod yn ddinasyddion ifanc hyderus, sy'n parchu eraill, yn deall ac yn dathlu amrywiaeth, yn anad dim, ac yn mwynhau dysgu. "

 

Cryfder neilltuol yr ysgol oedd y modd yr oedd disgyblion o’r ganolfan adnoddau clywedol yn integreiddio’n hawdd i fywyd llawn yr ysgol. Mae’r disgyblion hyn yn rhan o’r gwersi prif ffrwd, lle mae oedolion a disgyblion yn defnyddio arwyddo a thechnegau cyfathrebu gweledol eraill yn barhaus mewn modd sensitif a hyderus i gefnogi cyfathrebu geiriol. Roedd hyn yn arwain at ddisgyblion o’r ganolfan adnoddau yn ffynnu ochr yn ochr â disgyblion eraill.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau: “Llongyfarchiadau i ddisgyblion, athrawon a staff ar adroddiad ysgol arbennig. Mae’n wych darllen bod disgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig, yn gwneud cynnydd ac yn rhagori ar dargedau mewn cymuned ofalgar.

 

“Mae hefyd yn galonogol darllen bod disgyblion, sy’n rhan o’r ganolfan adnoddau clywedol, yn ffynnu yn yr ysgol, ac yn profi ei bod yn adnodd gwerthfawr iawn i'r plant."

 

Mae'r arolygwyr wedi argymell bod yr ysgol yn gwella safonau llefaredd Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn gwella gallu disgyblion i ddylanwadu ac arwain ar eu dysgu eu hunain.

 

 

 

 

Cogan school posing