Cost of Living Support Icon

 

Gwobrau'r Faner Werdd ar gyfer Parciau’r Fro

Dathlu’r llwyddiant gorau erioed i Fro Morgannwg yn y Gwobrau Baner Werdd

 

  • Dydd Llun, 16 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



MAE Cyngor Bro Morgannwg unwaith eto wedi rhagori yn y Gwobrau Baner Werdd. Cafodd cyfanswm o 10 ardal yn y Sir wobr, sy'n arwydd uchel ei pharch ar lefel ryngwladol o fan awyr agored o'r safon orau.

 

Mae hyn yn dri’n fwy na’r llynedd ac o ganlyniad, y Fro sydd â'r mwyaf yng Nghymru ac eithrio un sir arall

O’r 22 o Gynghorau yng Nghymru, dim ond Caerdydd, sy’n sylweddol fwy ac sydd â 12 o Faneri Gwyrdd, sy’n rhagori ar y Fro. Mae Abertawe a Chasnewydd yn bell ar ein holau.

 “Mae'n bleser o'r mwyaf gennyf fod y Fro unwaith eto wedi rhagori ar y disgwyliadau. O ystyried ein hadnoddau o gymharu ag awdurdodau eraill mae cael cynifer o Wobrau Baner Werdd yn gyflawniad cwbl anhygoel ac yn deyrnged i waith caled staff ein parciau. Eu hymrwymiad nhw sy’n cadw’n mannau gwyrdd mewn cyflwr mor arbennig drwy gydol y flwyddyn.

 

Llongyfarchiadau hefyd i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled parhaus.

 

Mae’r safon i ennill statws Baner Werdd yn hynod uchel ac mae llawer iawn o ymdrech yn cael ei roi y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod gan drigolion gynifer o ardaloedd awyr agored yn y Fro i'w mwynhau.” - dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.

 

Eleni mae tri o barciau Bro Morgannwg wedi ennill eu Baner Werdd gyntaf; Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston a’r Pentref Canoloesol, Parc Gwledig Porthceri a Pharc Gladstone.

“Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Warcheidwaid y Safle Aaron Jones (Cosmeston) a Melanie Stewart (Porthceri) am eu holl waith caled yn ysgrifennu’r cynlluniau rheoli a’r pecynnau cais ar gyfer eu safleoedd, yn ail, hoffwn ddiolch i bob aelod o'r tîm Gwledig a'r gwirfoddolwyr am eu holl waith caled ac ymrwymiad i'r ddau broject" - Steve Pickering, Gwasanaethau Gwledig.

Bellach mae deg o barciau Baner Werdd ym Mro Morgannwg:

Hefyd yn y Fro, cafodd y Cymin ym Mhenarth a Mynwent Merthyr Dyfan y Barri, sy’n cael eu cynnal a'u cadw gan eu cynghorau tref perthnasol, Wobrau Baner Werdd.

 

Ymhlith y gerddi a gafodd wobrau hefyd roedd Gardd Gymunedol y Barri, Coetiroedd Llwynbedw, Little Hill Brock Street, Gardd Nightingale, Perllan Wyllt Gwenfô, Gardd Ffiseg y Bont-faen, Gerddi'r Hen Neuadd, Cae Perllan Uchaf Gwenfô, Perllan Gymunedol Gwenfô, a Pherllan Gymreig Gwenfô.

“Rydym wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i Wobrau’r Faner Werdd yng Nghymru. Mae’r 201 o faneri sydd yn chwifio yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd y staff a’r gwirfoddolwyr ar draws y wlad sydd yn gweithio’n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd. 

 

Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r parciau a’r mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar drothwy’r drws.” - Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus

Dyma restr lawn o’r holl enillwyr: Keep Wales Tidy website.