Cost of Living Support Icon

 

Gostyngiad yn niferoedd y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn y Fro

Mae ffigyrau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar yn dangos bod nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi gostwng yn sylweddol ym Mro Morgannwg. 

  • Dydd Mercher, 04 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg


Gostyngodd canran y bobl ifanc yn oed Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o 1.60% yn 2016 i 1.00% yn 2017 yn y Fro; mae hyn yn ostyngiad sylweddol, sy’n dod â’r gyfradd i’r drydedd isaf yng Nghymru. 

 

Mae’r ffigyrau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12 hefyd wedi gostwng yn sylweddol o 1.40% yn 2016 i 0.60% yn 2017 a ffigyrau Blwyddyn 13 o 3.07% i 2.85%.

 

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’n hynod galonogol bod canran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi bod yn gostwng yn gyson. 

 

“Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc Bro Morgannwg yn gallu cael cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a llunio dyfodol cadarnhaol.”

 

 

Better outcomes for young people chart