Cost of Living Support Icon

 

Diwrnod gwirfoddoli yn llwyddiant mawr wrth i 75 o bobl ddod helpu i weddnewid Margaret Avenue yng Ngholcot

Mewn sesiwn wirfoddoli yng Ngholcot yn y Barri daeth 75 o bobl ynghyd i beintio rheiliau fel rhan o waith sy’n mynd rhagddo i ailwampio Rhodfa Margaret a chreu gardd gymunedol.

 

  • Dydd Llun, 09 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r project yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â grŵp ‘Cyfeillion Margaret Avenue’ i sicrhau’r gwaith o ofalu am yr ardal a chael arian ar gyfer syniadau i’w cyflawni yn y dyfodol.

 

 

Yn ymuno â’r gwirfoddolwyr oedd grŵp o bobl o Texas, America a oedd yn ymweld â Chymru i helpu gyda phrojectau cymunedol, a threfnwyd barbeciw ar eu cyfer yn y prynhawn.

 

Painting Picture - Margaret Ave - July 2018

 

Dywedodd y Swyddog Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol, Mark Ellis: “Roedd yn wych gweld cynifer o’r gymuned lleol yn dod draw i helpu ac rydym yn gobeithio parhau i gynnal digwyddiadau gwirfoddoli yn ystod yr haf”.

 

 

 

Mae Tîm Buddsoddi Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am ddatblygu ystod o fentrau i gynnwys tenantiaid a’u helpu i ennill sgiliau newydd wrth greu cymunedau cydlynol.

 

 

Y bwriad yw datblygu’r safle yn broject cymunedol a arweinir gan wirfoddolwyr.

 

Mae’r tîm yn gweithio gyda Chredydau Amser Spice, i reoli’r cynllun yn y Fro.

 

 

Cyflwynwyd cyfanswm o 68 credyd amser sy’n galluogi pobl i fwynhau gweithgareddau a manteisio ar gyfleoedd yn eu cymuned.

 

Y cam nesaf yw peintio’r rheiliau gyda phaent lliw, gwaith a gaiff ei wneud yn ddiweddarach yn ystod y mis mewn sesiwn wirfoddoli arall.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth wirfoddoli gyda phroject Margaret Avenue neu’r cynllun Credydau Amser, cysylltwch â Shani neu Mark, Swyddogion Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol ar 07813 068324.

 

 

Margaret Ave - Group Pic - July 2018