Cost of Living Support Icon

 

Ynys y Barri i gynnal Parêd a Gŵyl Diwrnod Lluoedd Arfog 2018

 

Bydd parêd yn nodi dechrau Diwrnod Lluoedd Arfog eleni, i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg



Ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin, gwahoddir pobl o bob rhan o'r sir i'r digwyddiad hwyl a gefnogir gan Gyngor Bro Morgannwg, sy'n cynnwys cyfle i gwrdd â phersonél presennol a chyn-filwyr.   

 

Bydd y parêd yn dechrau am 11am, a bydd aelodau o Fand RAF Sain Tathan a Phibelli a Drymiau Dinas Casnewydd, Band Llanelli’r Lleng Brydeinig Frenhinol gydag MOD Sain Tathan, HMS Cambria, Gwirfoddolwyr Ysbyty Maes 203, Carfan 614, Cymdeithasau Cadetiaid, Cyn-filwyr, Cangen Marchogion y Lleng Brydeinig Frenhinol, y Llynges Fasnachol a Chymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol, yn gorymdeithio.

 

Bydd arddangosiadau a cherbydau milwrol gan gynnwys Timau Ymladd Diarfog y Môr-filwyr Brenhinol, Rhedwyr Gyniau Cadetiaid TS, y Coleg Hyfforddiant Paratoi Milwrol, Wal Ddringo Filwrol a Hofrennydd Sea King y Llynges Frenhinol yno.

Bydd Côr Meibion y Barri a Chôr Merched Tenovus hefyd yn perfformio ar y diwrnod.

 

Bydd stondinau gan elusennau milwrol a grwpiau cymunedol a fydd yn rhoi gwasanaethau cymorth i’r gymuned lluoedd arfog. Bydd hefyd ardal bwyd a diod gyda bwytai dros dro.

 

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng John Thomas: “Rydym yn falch iawn i gynnal Parêd a Gŵyl Diwrnod Lluoedd Arfog 2018, gan ei bod yn bwysig i ni gofio a chefnogi'r gymuned Lluoedd Arfog o’r gorffennol, presennol a’r dyfodol.

 

"Mae’r trefnwyr wedi gweithio’n galed i greu’r digwyddiad hwn, a gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn mynychu ac yn mwynhau’r dydd.”

 

 Darllenwch y rhaglen yma.