Cost of Living Support Icon

 

Dirwy o £6,350 i ŵr busnes am bledio’n euog i 14 trosedd dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru)

Mae gŵr busnes o’r Barri wedi pledio’n euog i 14 trosedd dan Reoliad 17(1) ac un drosedd dan Reoliad 6(2) Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, a ddigwyddodd mewn tri safle’r llynedd.

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg



 

gone off food

Y safleoedd hynny oedd Barry Dock Café, Barry Dock and Treasure Island Foods ac Island Treats, y ddau ym Mharc Pleser Ynys y Barri.

 

Cafodd Steven McCartney ddirwy o £6350 yn Llys Ynadon Caerdydd, a oedd yn cynnwys £3350 am dorri’r Hysbysiad Gwella Hylendid dan Reoliad 6(2) a £1000 am bob un o’r 3 trosedd dan Reoliad 17(1) yn ymwneud â glendid offer gwaith, methiant i sicrhau digon o fasnau golchi dwylo a methiant i sicrhau bod cyfleusterau priodol ar waith i gynnal hylendid personol digonol.

 

Gorchmynnwyd iddo dalu costau archwilio o £1500 a thâl dioddefwr o £335.

 

 

Roedd trosedd bellach yn Hydref 2017, pan fethodd McCartney â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella Hylendid a gyflwynwyd o ran Island Treats.

 

Yn dilyn ymweliad â Barry Dock Café, nodwyd y toriadau isod a chyflwynwyd Hysbysiad Gwahardd Brys Ar Sail Hylendid i gau’r safle ar unwaith.

 

 

  1. Methiant i sicrhau basnau golchi dwylo gyda dŵr oer a phoeth.
  2. Methiant i ddarparu cyfleusterau glanhau, dadheintio a storio offer gwaith gyda chyflenwad digonol o ddŵr poeth ac oer
  3. Methiant i sicrhau bod gweithdrefnau digonol ar waith i reoli plâu
  4. Methiant i sicrhau bod y safleoedd bwyd yn lân ac yn cael eu cadw mewn cyflwr da
  5. Methiannau i roi ar waith, gweithredu a chynnal gweithdrefn(au) parhaol yn seiliedig ar egwyddorion HACCP.

 

 

Caniatawyd i’r caffi ail-agor ar ôl gwneud y gwaith.

 

 

Nododd yr ymweliadau â Treasure Island Foods yr achosion canlynol:

 

  1. Methiant i sicrhau bod y safleoedd bwyd yn lân ac yn cael eu cadw mewn cyflwr da
  2. Methiannau i roi ar waith, gweithredu a chynnal gweithdrefn(au) parhaol yn seiliedig ar egwyddorion HACCP.
  3. Methiant i sicrhau bod sebon wrth y basn golchi dwylo

 

Nododd yr ymweliadau ag Island Treats yr achosion canlynol:

 

  1. Nododd yr ymweliadau ag Island Treats yr achosion canlynol
  2. Methiant i sicrhau bod cyfleusterau priodol ar gael i gynnal hylendid personol digonol gan gynnwys cyfleusterau i olchi a sychu dwylo mewn modd hylan
  3. Methiant i sicrhau bod y safle mewn cyflwr da i osgoi’r risg o halogi

 

 

 

 

street mess

 

 

 

Yn dilyn archwiliadau Treasure Island Food ac Island Treats, cawsant Sgôr Hylendid Bwyd o 0 (Sero – “Angen Gwella ar Frys” a 2 – “Angen Gwella".

 

Dywedodd Mr Trobe, a amddiffynnodd McCartney, wrth y llys fod The Barry Docks Café ers hynny wedi’i werthu a bod dau safle arall yn cael eu gwerthu.

 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chyfreithiol yng Nghyngor Bro Morgannwg, y Cyng. Hunter Jarvie: “Daw perchenogaeth busnesau cyhoeddus â chyfrifoldebau ac mae’n annerbyniol i gadw’r tri safle mewn cyflwr gwael.

 

 “Gobeithio bod yr erlyniad hwn yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal sgôr hylendid bwyd uchel,  ac yn lledaenu neges i fusnesau ar draws y Fro na fydd y Cyngor yn goddef cyfleusterau a gedwir mewn cyflwr mor wael yn enwedig pan ddaw at ddiogelwch y cyhoedd.”