Cost of Living Support Icon

 

Arddangosfa Coleg Caerdydd a yr Fro yn agor yn yr Oriel Gelf Ganolog

Mae arddangosfa diwedd blwyddyn Coleg Caerdydd a’r Fro i’w gweld yn Oriel Gelf Ganolog Cyngor Bro Morgannwg yn Neuadd Tref y Barri ar hyn o bryd.

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae’r arddangosfa aml-gyfrwng gyffrous hon yn gymysgedd wych o waith celf gan fyfyrwyr o bob lefel, o TGAU i Ddiploma Uwch a Graddau.  


I’r rhan fwyaf o bobl dyma’u cyfle cyntaf i arddangos mewn oriel broffesiynol a deall y broses o osod a goruchwylio arddangosfa.

 

valeart1Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Fel Cyngor, rydym wedi cefnogi’r Coleg ers dros 10 mlynedd ac rydym yn falch iawn o allu cynnal arddangosfa o’r fath eto. Mae yna amrywiaeth fawr o waith celf ardderchog ar ddangos, a gobeithiwn y bydd yr arddangosfa yn helpu artistiaid ar eu taith broffesiynol i astudiaethau pellach a gyrfa yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol.” 


Mae arddangosfa Coleg Caerdydd a’r Fro i’w gweld tan ddydd Sadwrn, a bydd sioe gyffrous o waith celf gan ddisgyblion TGAU a Safon Uwch yn dilyn.

 

Mae’r arddangosfa’n dathlu troi ysgolion cyfun Bryn Hafren a’r Barri yn ysgolion cyd-addysgol. 


I gael rhagor o wybodaeth am hyn, arddangosfeydd y dyfodol a digwyddiadau'r oriel, ewch i www.bromorgannwg.gov.uk