Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn gwrthwynebu cynigion diweddaraf ddiwygio llywodraeth leol 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno ei ymateb i’r ymgynghoriad diweddaraf ar ddiwygio llywodraeth leol, gan wrthwynebu’n gryf y cynigion i uno’r awdurdod â Chaerdydd. 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg


 


Mae ymateb y Cyngor wedi’i ddatblygu gan swyddogion ar draws y sefydliad yn ogystal ag aelodau etholedig. 


Cytunodd y Cabinet ar yr ymateb drafft cychwynnol ar 21 Mai ac yna cafodd ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol ar 24 Mai.  Yna, cytunodd y Cabinet ar yr ymateb terfynol ar 6 Mehefin a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 


Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd y Cyngor:

Cllr John Thomas

“Rydyn ni fel Cyngor wedi ystyried yn ofalus cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol llywodraeth leol ac rydyn ni o’r farn nad oes angen uno Cynghorau.  


“Mae’r Papur Gwyrdd yn parhau i argyhoeddi’r syniad bod llai o awdurdodau mwy o faint rywsut yn gallu bod yn fwy hyblyg ac ymatebol i angen lleol.  


“Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi’i gydnabod fel y Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf.  Ni ddylid peryglu’r llwyddiant hwn wrth fodloni anghenion trigolion y Fro. 


“Mae’r syniad y dylid gorfodi cynghorau i uno er mwyn iddynt weithio’n well gyda’i gilydd hefyd yn methu â chydnabod y cydweithio sylweddol y mae’r cyngor hwn yn benodol eisoes yn ei wneud, ag awdurdodau lleol cymdogol yn unig, ond hefyd â phartneriaid yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill. 


“Mae aelodau etholedig o bob parti gwleidyddol eisoes wedi cytuno i’r gwrthwynebiad hwn i’r cynigion diweddaraf.  Mae hyn yn dangos pa mor wael yw’r cynllun diweddaraf hwn i ymyrryd â llywodraeth leol yng Nghymru, a’r effaith negyddol a ddygai ar y Fro.” 

Darllen ymateb llawn y Cyngor i'r Ymgynghoriad Papur Gwyrdd.