Cost of Living Support Icon

 

Creu Gweithleoedd Ysbrydoledig Newydd yn y Fro Wledig 

Mae Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd perchenogion eiddo a busnesau sy’n chwilio am weithleoedd newydd i rwydweithio yn yr ail 'Ddigwyddiad Gweithleoedd Ysbrydoledig Newydd’.

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg



Bydd hwn yn gyfle i bobl sy’n chwilio am weithleoedd newydd rwydweithio a gall pobl sydd â lle ddangos y cyfleoedd sydd ganddynt ar gyfer gweithleoedd yn y Fro yn ogystal â chael cyfle i ddysgu gan arbenigwyr sydd wedi creu gweithleoedd arloesol newydd.

 

Mae’r digwyddiad yn cymryd lle ar ddydd Mercher 4 Gorffennaf,  yn Ganolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr, ar Heol Gorsaf o 5.30pm – 8.00pm.

 

Aeth mwy na 60 o bobl i’r digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd ym mis Ionawr, lle rhannodd arbenigwyr sydd wedi creu gweithleoedd bywiog newydd, gan gynnwys Chris Griffiths o Penarth Tec Marina, brofiadau yn ogystal ag awgrymiadau arbennig.

 

Mae’r digwyddiadau hyn yn dilyn ymchwil y tîm ar chwilio am gyfleoedd i geisio defnyddio adeiladau gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y Fro wledig at ddibenion busnes yn ogystal â chanfod safbwyntiau busnesau bach ar eu hanghenion o ran gweithle.  

 

Mae adborth wedi amlygu nad yw tirfeddianwyr yn y Fro wledig yn siŵr beth i'w wneud gyda'u hadeiladau gwag a bod busnesau’n cael trafferth dod o hyd i weithleoedd hyblyg priodol.  Mae mwy o alw i greu mannau cydweithio ym Mro Morgannwg sy’n galluogi busnesau i gydweithio a dysgu gan ei gilydd.

 

Mae’r project hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: “Roedd y digwyddiad cyntaf yn llwyddiant mawr gyda’r rhai a aeth iddo yn dangos brwdfrydedd dros ddysgu mwy am y cyfleoedd i newid ac adnewyddu adeiladau gwledig yn weithleoedd ysbrydoledig. 

 

"Bydd yr ail ddigwyddiad hwn yn annog mwy o gydweithio rhwng y bobl hynny sydd â lle a’r rhai hynny sy’n chwilio am weithleoedd er mwyn cymryd y camau cyntaf tuag at greu gweithleoedd arloesol yn y Fro wledig. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynd i’r digwyddiad.”

 

Bwriad y digwyddiad yw hwyluso’r broses o baru’r rhai hynny sydd â lle a'r rhai hynny sy’n chwilio am le. Os oes gennych adeilad gwag neu adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml rydych yn ystyried ei newid at ddibenion busnes, dyma'ch cyfle i ddangos yr hyn sydd gennych i'w gynnig. 

 

Yn yr un modd, os ydych yn chwilio am weithle, hoffem glywed gennych.

 

Os hoffech fynychu’r digwyddiad, gallwch gofrestru eich diddordeb gyda Clair Bonter ar 01446 704828 neu gallwch sicrhau eich lle ar y wefan

 

Am fwy o wybodaeth ar y prosiect, ewch i’r wefan www.creativeruralcommunities.co.uk.

 

 

 crc picture