Cost of Living Support Icon

 

Cannoedd dod ynghyd ar Ynys y Barri ar gyfer Parêd a Gŵyl Diwrnod Lluoedd Arfog 2018

 

Estynnwyd croeso mawreddog ar Ynys y Barri i gyn-aelodau ac aelodau presennol cymuned y Lluoedd Arfog ym Mharêd a Gŵyl y Lluoedd Arfog 2018.

 

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg



Gwahoddwyd pobl o bob rhan o’r sir  i’r achlysur arbennig hwn a oedd yn cynnig y cyfle i gwrdd â milwyr presennol a chyn-filwyr.  Cefnogwyd y digwyddiad gan Gyngor Bro Morgannwg.   

 

Bu aelodau o Fand RAF Sain Tathan a Phibelli a Drymiau Dinas Casnewydd, Band Llanelli’r Lleng Brydeinig Frenhinol gydag MOD Sain Tathan, HMS Cambria, Gwirfoddolwyr Ysbyty Maes 203, Carfan 614, Cymdeithasau Cadetiaid, Cyn-filwyr, Cangen Marchogion y Lleng Brydeinig Frenhinol, y Llynges Fasnachol a Chymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol, yn gorymdeithio yn y parêd o flaen torfeydd enfawr. 

 

Mwynhaodd y torfeydd arddangosiadau a cherbydau milwrol Timau Ymladd Diarfog y Môr-filwyr Brenhinol, Rhedwyr Gynnau Cadetiaid TS, y Coleg Hyfforddiant Paratoi Milwrol, Wal Ddringo Filwrol a Hofrennydd Sea King y Llynges Frenhinol.

 

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng John Thomas: “Roedd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Ynys y Barri yn ffordd wych o gofio a chefnogi cymuned Lluoedd Arfog ddoe, heddiw ac i'r dyfodol.

 

“Roedd yn wych gweld cannoedd o bobl o bob rhan o’r Fro yn dod ynghyd i nodi’r achlysur a mwynhau’r diwrnod, yn enwedig arddangosiadau a cherbydau milwrol.

 

“Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac mae’n amlwg bod gwaith caled y trefnwyr wedi talu ar ei ganfed.  Da iawn wir.”

 

 

 

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Lleng Brydeinig Frenhinol: ‘Diolch yn fawr, roedd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn llwyddiant mawr ac roedd Veterans Gateway yn falch iawn o fod yn rhan ohono, gobeithio y bydd mwy eto yn y dyfodol'.