Cost of Living Support Icon

 

Cymunedau Gwledig i Ffynnu ym Mro Morgannwg

Mae cymunedau o bob cwr o’r Fro wledig wedi derbyn arian gan dîm Cymunedau Gwledig Creadigol y Cyngor (CGC) i dreialu ffyrdd newydd o gynyddu ysbryd cymunedol yn eu hardal.    

 

  • Dydd Gwener, 01 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



St Hilary Newsletter 2Mae Fforwm Sant Hilari wedi derbyn cymorth i lansio cylchlythyr cymunedol newydd i adrodd ar yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned.  

Dywedodd Caroline Neudegg, o Fforwm Sant Hilari: “Y cylchlythyr misol wedi bod yn ffordd wych o roi gwybod i’r gymuned am yr hyn sy’n digwydd ac o hyrwyddo digwyddiadau sy’n dod â phobl ynghyd. 

 

"Mae’r broses ddosbarthu hyd yn oed, wedi arwain at sgwrsio rhwng trigolion, sgyrsiau na fyddai wedi digwydd fel arall.  Dywedodd un o drigolion newydd yr ardal ei bod wir yn gwerthfawrogi cael gweld yr hyn sy’n digwydd drwy gyfrwng y cylchlythyr.”

Mae’r SAINT – grŵp Parciau Sain Tathan – newydd sefydlu tîm pêl-droed newydd i blant y pentref, i’w hybu i fod yn actif a denu pob plentyn at chwaraeon.  Maen nhw wedi derbyn cymorth i gynnal Gŵyl Iechyd a Llesiant dros yr haf.

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio:  "Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld mentrau newydd yn cael eu datblygu yn y Fro Wledig i ddod â phobl at ei gilydd a rhoi cyfle iddynt gwrdd â phobl eraill, chwarae mwy o ran ym mywyd eu cymunedau a mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol."

Mae’r project hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, gan Lywodraeth Cymru a chan Gyngor Bro Morgannwg. 


Os hoffech ddysgu rhagor am y ffordd y gall CGC eich helpu i beilota dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau cymunedol neu helpu eich grŵp i fod yn fwy cynaliadwy, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio  01446 704226 neu e-bostio create@valeofglamorgan.gov.uk.