Cost of Living Support Icon

 

Dechrau'n Deg y Fro yn nodi yr Wythnos Diogelwch Plant

Gwahoddwyd teuluoedd o bob rhan o’r Fro i ymuno â’r tîm Dechrau'n Deg i hyrwyddo’r Wythnos Diogelwch Plant.

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg



 

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r tîm Dechrau'n Deg yn y Barri yn gweithio gyda theuluoedd i greu canlyniadau cadarnhaol i blant bach.

 

 

Flying Start Team

Mewn diwrnod o hwyl i’r teulu ar ddydd Mawrth 29 Mai yn Sgwâr y Brenin, y Barri, hyrwyddwyd negeseuon diogelwch i rieni mewn ffordd hwylus, dychmygus a diddorol i alluogi rhieni i wneud ‘camau bach at ddiogelwch’ fel rhan o’u bywydau bob dydd.

 

 

Mae’r Wythnos Diogelwch Plant yn ymgyrch addysg gymunedol gan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant sy'n annog sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o ddamweiniau plentyndod difrifol a chynnig cyngor, a gall camau syml atal hyn.

 

 

Y neges allweddol yw bod y camau at ddiogelwch yn fach, ond drwy gymryd y camau hyngall teuluoedd wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant.

 

 

 

Gwnaeth Dechrau'n Deg y Fro ddiolch i’r 32 o asiantaethau partner sy’n rhan o hyn, ynghyd â busnesau lleol, gan gynnwys Giggles, Ruckley’s, Jumping Jacks a’r Mount Rooms am eu rhoddion i’r raffl a Just Fancy am gynnig y gwisgoedd ffansi.

 

 

 

Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth ar Dechrau'n Deg.