Cost of Living Support Icon

 

Adroddiad Estyn 2017 - Ysgol Gynradd yr Hollsaint yr Eglwys 

Ym mis Rhagfyr y llynedd, dywedodd adroddiad Estyn bod bron i bob disgybl yn mwynhau mynd i Ysgol Gynradd Hollsaint yr Eglwys yng Nghymru ac yn dangos agweddau rhagorol tuag at ddysgu. 

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae hefyd yn dweud bod yr ysgol yn pwysleisio’n gryf iawn ar ddatblygu addysg bersonol a chymdeithasol ei disgyblion.

 

 

Dyfarnwyd yr ysgol yn Dda yn ei Harweinyddiaeth a Rheolaeth, Addysgu a phrofiadau dysgu a Safonau. Dyfarnwyd bod lles yn yr ysgol a’i hagweddau tuag at ddysgu a gofal, cymorth a chanllaw yn ardderchog.

 

 

all saints school

 

Dywedwyd bod arweinwyr yr ysgol yn rhoi arweinyddiaeth gref ac effeithiol a dywedodd yr athrawon a’r arolygwyr fod yr aelodau staff cynorthwyol yn dra brwdfrydig ac yn angerddol dros wella dysg y disgyblion.

 

 

Dywedodd yr adroddiad fod rhan fwyaf y disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn cyfrannu’n effeithiol mewn gwersi ac yn aml yn cynnig atebion estynedig i gwestiynau ac yn cyfrannu’n berthnasol i drafodaethau yn y dosbarth.

 

 

 

Pan fo disgyblion ym mlwyddyn 6, mae’r rhan fwyaf yn siarad yn groyw ac yn cynnig barn sy’n herio syniadau, er enghraifft wrth drafod stereoteipio rhywedd.

 

 


Roedd yr argymhellion ar gyfer yr ysgol yn cynnwys gwella safonau iaith lafar y plant yn Gymraeg y tu allan i’r wers Gymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a gwella profiad disgyblion yn ystod amser egwyl ac amser cinio er mwyn iddynt gael rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio eu hamser yn fy pwrpasol y tu allan.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’r adroddiad yn amlygu cymaint y mae Ysgol Gynradd yr Hollsaint yn gwella ac yn gweithio’n galed i ddatblygu addysg bersonol a chymdeithasol y disgyblion.

 

 “Mae’n wych darllen bod safon yr ymddygiad a hunanddisgyblaeth bron i bob disgybl yn y gwersi trwy’r ysgol yn uchel a’u bod yn dangos parch mawr at ei gilydd ac at oedolion yn ifanc. Da iawn wir i’r holl athrawon, staff a phawb yn Ysgol Gynradd yr Hollsaint.”