Cost of Living Support Icon

 

Oriel Gelf Ganolog y Barri yn arddangos gweithiau newydd gan aelodau o Gymdeithas Gelf y Menywod

Yn yr Oriel Gelf Ganolog Bro Morgannwg yn y Barri mae dros nawdeg o weithiau celf gan arlunwyr benywaidd i'w gweld. Lluniwyd yr arddangosfa i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth.

 

  • Dydd Mawrth, 20 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



 

Mae’r arddangosfa a drefnwyd gan Gymdeithas Gelf y Menywod, yn gyfle i fenywod ledled y Fro a Chymru, i arddangos eu gwaith. Mae’r gymdeithas wedi bod yn cynnal sioeau agored o gelf gan fenywod ers dros 30 mlynedd, ac eleni mae gweithiau cymysg i’w gweld, o’r cyfoes, i’r dirdynnol a’r hwyliog. 

 

Bethan Morgan

 

Agorwyd yr arddangosfa i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, ar ddydd Sadwrn 10 Mawrth. Agorwyd yr arddangosfa gan y siaradwyr gwadd, y Cynghorydd Rachael Nugent – Finn sy’n Bencampwraig Trais Domestig y Fro, a Bethan Morgan, Cyfarwyddwr Artistig Mercury Theatre Wales.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Rachael Nugent – Finn: “Eleni rydym yn dathlu canmlwyddiant mudiad y Swffragetiaid. Mae hon yn flwyddyn bwysig i ni godi proffil menywod a merched, mynd i’r afael â materion anghydraddoldeb, anghyfiawnder, rhywiaeth, trais, trais a cham-drin domestig, agweddau diwylliannol wedi hen sefydlu, delwedd ac ymddangosiad y corff, y bwlch yng nghyflog dynion a menywod ac ati. 

 

 “Dethlir menywod ar draws y byd heddiw.  Mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych i alluogi menywod yng Nghymru i ddangos yn greadigol sut y gall eu celfyddyd ddathlu’r digwyddiad hwn mewn ffordd mor dalentog a hawdd ei gyfathrebu."

 

 

 

 

 

Atgoffodd y Cynghorydd Nugent Finn y rhai hynny oedd yn bresennol bod 12 Mawrth hefyd yn dathlu Gŵyl y Gymanwlad, gan ymgysylltu â gwledydd o amgylch y byd. Gyda'i Mawrhydi Y Frenhines yn arwain y Gymanwlad, mae eleni yn nodi ac yn codi proffil menywod heddiw.   

 

 

Ategodd Bethan Morgan eiriau’r Cynghorydd Nugent Finn yn ei haraith hithau, a chyfeiriodd at ei chynhyrchiad theatrig ‘35 Times’ a ysbrydolwyd gan fenywod yn byw â chamdrin. Mae teitl y cynhyrchiad yn adlewyrchu’r nifer o weithiau y mae cam-drin yn digwydd, cyn i fenyw roi gwybod i’r heddlu am drosedd dreisiol neu gamdriniaeth.

 

 

Ddydd Iau, 8 Mawrth, croesawodd Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles lu o fenywod, gan gynnwys myfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol Stanwell, aelodau Sefydliad y Merched, y Soroptimistiaid a Chynghorwyr i'r Oriel Gelf Ganolog, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

 

 

 Artists Cllr and Tracey