Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gyfun y Barri yw’r cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Sylfaenol Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn ysgolion

 

Mae Ysgol Gyfun y Barri wedi cael gwobr am gyflawni’r elfennau sylfaenol o’r Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion.

 

 

  • Dydd Gwener, 16 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



 

 

Datblygwyd y Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion yn wreiddiol gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a'r Gymdeithas Plant, ac mae’r wobr yn cynnwys neilltuo aelod arweiniol o staff i ddeall gofalwyr ifanc a’u hanghenion yn y rôl arweinydd gweithredol, a datblygu a chynnal hysbysfwrdd disgyblion a gwybodaeth ar-lein i dynnu sylw at faterion gofalwyr ifanc.

 

Ym mis Hydref 2016, comisiynodd Cyngor Bro Morgannwg Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru i ymgymryd â phroject ar ran y Cyngor ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

 

Mae 700,000 o ofalwyr ifanc yn y DU yn ôl amcangyfrif, ac amlygodd arolwg diweddar ym Mro Morgannwg y gallai un ym mhob 12 disgybl ysgol gynradd neu uwchradd fod yn ofalwr ifanc. 

 

 

Mae Sue Neilson, Arweinydd Gweithredol Ysgol Gyfun y Barri, yn cefnogi gofalwyr ifanc yr ysgol.

 

Dywedodd Ms Nielson: “Rydym yn falch iawn o’n gofalwyr ifanc, sy’n gwneud cymaint i gefnogi eu teuluoedd. Mae’r rhaglen gofalwyr ifanc mewn ysgolion wedi ein galluogi i nodi’r gofalwyr ifanc yn yr ysgol, gan roi amrywiaeth o fesurau cadarnhaol ar waith i'w cefnogi yn yr ysgol yn ogystal â thu hwnt."

 

 

 Young carers

 

 

 

 

 

Roedd Ysgol Gyfun y Barri yn ansicr o niferoedd eu gofalwr ifanc i gychwyn, ond gweithiodd staff ac athrawon yn ddiwyd i gefnogi a gwrando ar ofalwyr ifanc, ac mae'r ysgol bellach wedi bodloni meini prawf elfennau sylfaenol y Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion.

 

 

 

Dywedodd Connor Dunn, 15 oed, a fydd yn dechrau cwrs Mynediad yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn hwyrach eleni: “Mae gofalwr ifanc yn rhywun sy’n gofalu am ei deulu. Rwy’n helpu dad yn y cartref ac weithiau rwy’n helpu fy mrawd i wneud ei waith cartref. Gall gofalwyr ifanc wynebu llawer o broblemau, a gallant ymateb yn fyrbwyll i rywbeth yn sgil pwysau yn y cartref.

 

 “Mae helpu gofalwyr eraill yn fy ngwneud yn hapus iawn. Doedden i ddim wedi cwrdd â Trystan cyn y cynllun hwn, a bellach rydym yn dod ymlaen yn dda. Mae Ms Nielsen yn yr ysgol yn wych a gall gefnogi gydag unrhyw beth; mae wedi bod yn help mawr i mi.”

 

Dywedodd Tristan Evans, 14 oed: “Rwy’n helpu mam yn y tŷ pan fo angen help arni ac rwy’n helpu o gwmpas y tŷ. Cefais wybod am y rhaglen gofalwyr ifanc mewn ysgolion o boster mewn gwers Mathemateg. Soniais amdano wrth fy athrawes a gofynnodd i Ms Nielson roi mwy o wybodaeth i mi am sut y gall yr ysgol helpu.”

 

 

 

 

 

young carers with teacher