Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Y Merched 2018

Daeth merched o bob llun a lliw i Oriel Gelf Ganolog y Barri i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. 

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Agorodd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles, y digwyddiad drwy groesawu’r prif siaradwyr a’r mynychwyr, oedd yn cynnwys disgyblion chweched dosbarth o Ysgol Stanwell, aelodau o Sefydliad y Merched a Chynghorwyr. 

 

 Lisa Gore

 

Y siaradwr cyntaf oedd Prif Arolygydd Lisa Gore, Cadeirydd Cymdeithas Gweision Heddlu sy'n Fenywod Heddlu De Cymru, a roddodd gyflwyniad yn dangos merched yn yr heddlu rhwng 1915-2017.  

 

 

Dywedodd Prif Arolygydd Lisa Gore:“Pan ymunais â llu’r heddlu gyntaf, roedd merched yn cael sgertiau a throwsus, ond roedd y rhan fwyaf ohonom yn gwisgo trowsus. Cefais fag llaw wrth ymuno gyntaf, ond ni ddefnyddiais e byth. 

 

 

“Yn y Sefydliad Gweision Heddlu sy’n Fenywod, rydym yn lobio dros newid, ac yn helpu swyddogion sy’n dod atom gydag unrhyw broblemau.”

 

 

Siaradodd June Milligan, Comisiynydd yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chadeirydd ei Bwyllgor Cymreig, am ei rolau yn y gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys fel Diplomydd yn cynrychioli’r DU mewn sefydliadau Ewropeaidd ym Mrwsel.

 

Dywedodd: “Rwy’n sefyll yma fel menyw, pe byddai fy merch yma, byddai’n sefyll yma fel menyw hoyw a pe byddai fy mam yma, byddai’n sefyll yma fel hen fenyw.  Rydym oll yn fenywod, ac rydym yma heddiw i ddathlu ac i ystyried yr hyn a olygir gan gymdeithas deg. 

 

 

“Ni sydd angen newid y byd, peidiwch â gadael i'r byd newid chi." 

 

speakers

 

Y Parch. Rosemary Hill, Curad Cynorthwyol Plwyf Penarth a Llandochau, oedd y drydydd siaradwr. Siaradodd am ei thaith ei hun i weinyddiaeth yr eglwys, fel aelod o'r gymuned LHGT a rhiant sengl.

 

 

Dywedodd y Parch. Hill: “Rwy’n sefyll yma yn fy ngholer, mewn swydd oedd i fod i ddynion yn draddodiadol. Gall merched fod yn ddiaconiaid, yn offeiriaid ac yn esgobion; fodd bynnag, mae gwaith dal yn eisiau.

 

Y siaradwr olaf oedd Melanie Constantinou, merch fusnes benigamp sy’n gweithio yn Llanilltud Fawr, a roddodd gyngor ar rwydweithio a sgwrsio am ei phrofiadau ei hun fel mam a merch fusnes. 

 

Dywedodd Kate Beeslee, 16, myfyriwr yn y chweched dosbarth yn Ysgol Stanwell a gafodd ei gwahodd i'r digwyddiad: “Rwy’n meddwl ei bod hi’n wych i glywed gan y menywod ysgogol, a chlywed am yr hyn yr oeddent wedi’i brofi, yn benodol o ran y gweithle, a’r gwaith sydd dal angen ei wneud. Mae’n ddiwrnod gwych i ddathlu.”

 

 

 

mayor students police