Cost of Living Support Icon

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn ymateb i Bapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Llywodraeth Leol

21 Mawrth 2018

 

Thomas, John

Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'n siom mawr i weld yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Lywodraeth Leol yn atgyfnerthu cynlluniau diffygiol a diangen ar gyfer uno awdurdodau lleol. Addawodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet gyfnod o sefydlogrwydd fel y gallai cynghorau lleol barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr a chymunedau heb yr ansicrwydd a’r effaith digalonni o ddadl arall ar gynllun ad-drefnu diffygiol. Mae'n glir nawr nad yw'r addewidion hynny werth dim. 

 

"Nid oes rheswm da dros uno Cyngor Bro Morgannwg, sydd wedi'i raddio'n gyson fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio uchaf yng Nghymru, gyda Chyngor Dinas Caerdydd.  Er gwaethaf toriadau ariannol o flwyddyn i flwyddyn, rydym yn parhau i berfformio'n well na chynghorau mwy.  Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio'n barhaus am gynghorau mwy er gwaethaf y ffaith bod tystiolaeth gadarn a di-ddadl nad yw maint yn fesur perfformiad.  

 

"Mae Bro Morgannwg yn lle gwahanol iawn i Gaerdydd, yn ddaearyddol a diwylliannol, ac mae ganddi nodweddion ac anghenion gwahanol iawn i'r brifddinas. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru o hyd yn methu â deall, hyd yn oed ar ôl sawl blwyddyn o ddadlau a her gan y Cyngor hwn. 

 

"Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw trefniadau cyllido cyfredol awdurdodau lleol yn gynaliadwy. Fodd bynnag, nid yr ateb yw uno dan orfodaeth, gyda'r costau anferth cychwynnol a'r amhariad enfawr i wasanaethau hanfodol.

 

"Fel sydd wedi digwydd yn y Fro bob amser, byddwn yn disgwyl i wleidyddion o bob perswâd uno er mwyn amddiffyn dyfodol y Cyngor a Bro Morgannwg ei hun. 

 

"Fel yw'r drefn arferol, cyn i'r cynlluniau hyn gael eu cyhoeddi ni fu trafodaeth ystyrlon nac ymgysylltu â chynghorau, ac yn bwysicach nid ychwaith gyda’r trigolion lleol y byddai hyn yn effeithio arnynt. Fy ngobaith yw bod y cyhoeddiad diweddar hwn yn gychwyn i ddeialog lawn ac ystyrlon a dechrau'r diwedd ar gyfer y cynlluniau gwirion hyn."