Cost of Living Support Icon

 

Cyngor i wario £2 filiwn ychwanegol ar osod arwynebau newydd ar ffyrdd yn 2018/19

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwario £2.1 miliwn yn ychwanegol ar osod arwynebau newydd ar ffyrdd ledled y sir os caiff cynigion ar gyfer ei gyllideb 2018/19 eu cymeradwyo'r wythnos hon.

 

  • Dydd Iau, 01 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Mae'r Cyngor wedi ymrwymo miliwn o bunnoedd o hyn - yn ogystal â'r £300,000 y clustnodwyd ar ei gyfer yn wreiddiol – gyda’r gweddill yn dod o grant unigryw gan Lywodraeth Cymru. 

 

CivicMeddai’r Cyng. Geoff Cox, Aled y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Mae cytuno ar gynigion 2018/19 wedi bod y broses bennu cyllideb fwyaf heriol rwyf erioed wedi’i gweld.  Ond nid yw hyn wedi ein rhwystro rhag blaenoriaethu’r meysydd sy'n bwysicaf gan drigolion y Fro. 


“Mae miloedd o gilometrau o ffyrdd yn y Fro ac mae cynnal a chadw’r rhain at safon uchel yn waith sylweddol. Yn ffodus, mae gennym weithlu medrus ac ymrwymedig, a chyda'r cyllid ychwanegol hwn bydd ganddynt nawr yr arian y mae ei angen i'w cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ar gyfer y Fro. 


“Rhaid hefyd canmol Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru am fynnu sylw Llywodraeth Cymru i’r angen am fuddsoddiad mwy yn ein rhwydwaith o briffyrdd.” 

Caiff yr arian ychwanegol ei wario ar gynnal a chadw a diweddaru ffyrdd ledled y Fro. Fel y mae hi gyda gwario cyfredol, bydd tîm priffyrdd y Cyngor yn asesu’r ffyrdd y mae angen eu hatgyweirio fwyaf i sicrhau mai’r ardaloedd y mae angen buddsoddiad ychwanegol arnynt fwyaf fydd y rhai cyntaf i fanteisio.