Cost of Living Support Icon

 

Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol yn bwriadu gwella busnesau sy’n rhwydweithio yn y Sir

Mae Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio arolwg i gael gwybod sut a ble mae busnesau yn y Fro yn rhwydweithio gyda'i gilydd, a beth yr hoffent weld mwy ohono yn y dyfodol.

 

  • Dydd Iau, 01 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



TLansiwyd yr arolwg ar ôl i ymchwil gyda sefydliadau masnach yn y Fro nodi nad oedd busnesau'n gwybod am fanteision rhwydweithio a ble y gallent fynd i rwydweithio. Mae’n bosibl y bydd rhan o’r project hefyd yn edrych ar arfer gorau yn rhywle arall yn y DU fel y gall pobl ddysgu sut i fanteisio i’r eithaf arno.


Creative-Rural-CommunitiesMae’r arolwg bellach yn fyw a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Ebrill 2018. Caiff pob person sy’n gwneud yr arolwg gyfle i ennill te prynhawn hyfryd i ddau yn Llannerch Vineyards!


Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, “Rydym yn gobeithio y bydd yr arolwg yn rhoi i’r Cyngor a Chyrff Masnach lleol fewnwelediad i'r hyn y mae busnesau am ei gael allan o rwydweithio, ac yn ysbrydoli ffyrdd newydd o helpu busnesau i gyfathrebu, masnachu a gweithio ynghyd." 

Gallwch gwblhau'r arolwg byr trwy fynd i www.creativeruralcommunities.co.uk/survey