Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg i brofi yr awyr ger y cyfleuster biomas

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cryfhau ei weithred monitro amgylcheddol drwy brynu dwy uned er mwyn asesu ansawdd yr aer mewn lleoliadau penodol ger y cyfleuster biomas yn y Barri. 

 

  • Dydd Mercher, 21 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Bydd yr unedau ynni solar hyn yn cael eu gosod ym mis Ebrill, ar byst goleuadau stryd lle byddant yn samplo'r aer am ystod o allyriadau yn barhaus. Yna bydd y wybodaeth hon yn cael ei bwydo’n ôl fesul awr i’r Cyngor dros system ddi-wifr.

 
Er na ellir cysylltu  canlyniadau’r monitro yn uniongyrchol â’r cyfleuster Biomas, fe fyddant yn monitro’r ansawdd aer cyffredinol yn yr ardal o amgylch y cyfleuster a chaiff y data wedyn ei gymharu â safonau ansawdd aer cenedlaethol.

 

AQMeshYn dilyn cyfnod profi byr, er mwyn sicrhau bod yr offer monitro yn gweithio'n effeithiol, bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ansawdd aer ar ei wefan Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir gydag esboniadau o’r hyn sy'n benodol yn cael ei fonitro.

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: "Rwy’n llwyr ymwybodol o'r teimladau lleol cryf o ran y safle nwyeiddio, a'r pryderon y gall ei weithrediad fod yn achos pryder o ran iechyd.

 

"Er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw allyriadau sy'n bryder o ran iechyd y cyhoedd, bydd yr unedau monitro aer hyn yn ein galluogi i gadw golwg agos ar ansawdd yr aer yn y Barri.

 

"Bydd canlyniadau'r monitro wedyn ar gael i'r cyhoedd, a dylai hynny roi sicrwydd i'r rheiny sydd wedi mynegi pryderon ar y mater hwn."