Cost of Living Support Icon

 

Rhentu Doeth Cymru yn rhoi rhybudd i landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio ym Mro Morgannwg

Mae Rhentu Doeth Cymru wedi rhybuddio y bydd yn parhau i fynd i’r afael â landlordiaid sydd dal i weithredu’n anghyfreithlon drwy fethu â chofrestru eu heiddo â’r sefydliad.

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid ac asiantau yng Nghymru bellach yn cydymffurfio, ond mae dal angen i rai gofrestru.

Erbyn hyn mae mwy na 182,000 o eiddo a 88,394 o landlordiaid wedi cofrestru â’r cynllun, sy’n gwella safonau yn y sector rhent preifat yng Nghymru.

 

Mae angen i bob landlord preifat gofrestru eu hunain a’u heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru, ac mae angen hefyd i landlordiaid ac asiantau sy’n hunan-reoli basio hyfforddiant a dod yn drwyddedig. Bellach mae cyfanswm o 24,342 o landlordiaid a 2,840 o asiantau yn drwyddedig.

 

Rent Smart Wales

 

Ym Mro Morgannwg, mae 7,090 o eiddo bellach wedi cofrestru.

 

Mae swyddogion gorfodi Rhentu Doeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg i nodi landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio. Gall unrhyw un nad yw’n cydymffurfio gael hysbysiad cosb benodedig (HCB) o hyd at £250 a’u herlyn. 

 

 

Hyd yn hyn, mae 218 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi’u cyflwyno ac mae 19 achos wedi’u herlyn.

 

 

Mae gan euogfarn ar gyfer landlord neu asiant ganlyniadau difrifol, gan mai un o amodau cael trwydded yw bod rhywun yn addas a phriodol i gyflawni gweithgareddau gosod a rheoli. Mae pawb sy’n parhau i weithredu heb  drwydded yn peryglu dyfodol eu busnesau.

 


Dywedodd llefarydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rwy’n falch bod cymaint o landlordiaid ar draws Bro Morgannwg eisoes wedi cofrestru eu heiddo â’r cynllun hwn, ond mae eraill y mae dal angen iddynt gofrestru. Byddwn yn atgoffa unrhyw un sydd heb gofrestru eu bod bellach yn torri’r gyfraith a byddwn yn eu hannog i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar unwaith i osgoi cael eu herlyn.

 

“Daeth Rhentu Doeth Cymru i rym ym mis Tachwedd 2015 ac mae’n wych gweld Cymru’n arwain y ffordd wrth sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau.”

 

 

Hefyd, caiff tenantiaid eu hatgoffa y gallant wirio os yw landlord neu asiant wedi’i gofrestru â Rhentu Doeth Cymru ar y gofrestr gyhoeddus. Ewch i https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/

 

 

Os ydych chi’n gwybod am landlord neu asiant sy’n gweithredu heb drwydded, gallwch roi gwybod amdanynt yn ddienw yn https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/contact/ neu ffoniwch ni ar 03000 133344.