Cost of Living Support Icon

 

Ailstrwythuro Gwasanaethau Ieuenctid yn y Fro 

Gallai’r ffordd y mae gwasanaethau ieuenctid yn cael eu darparu yn y Fro newid yn fuan

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Cafodd cynigion, sy’n cynnwys creu gwasanaeth ieuenctid symudol proffesiynol a fydd yn gwasanaethu bob rhan o’r sir, eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad gan Gyngor Bro Morgannwg fis Chwefror yn rhan o gynlluniau i ailstrwythuro gwasanaeth ieuenctid y sefydliad. 

Vale-Youth-Service-logo

 

Mae’r model newydd arfaethedig yn annog grwpiau cymunedol i gefnogi’r cyngor drwy gymryd rhan weithredol mewn gwaith ieuenctid a rheoli safleoedd yn ei ardal i gefnogi’r gwasanaeth symudol drwy gyflwyno darpariaeth gyffredinol megis clybiau ieuenctid. 

 

Mae hefyd yn mynd i’r afael â phryderon ynghylch ansawdd a hyfforddiant staff, anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, yn ogystal â lleihau costau safleoedd.  

 

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau: “Bwriad y cynlluniau yw galluogi’r cyngor i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy ac effeithiol yn y dyfodol.  

 

“Os cytunir ar y rhain, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau mwy o gysylltiad â phobl ifanc drwy ddefnyddio gweithlu symudol a hyblyg, cynyddu oriau staff a sicrhau bod y staff hynny sy’n gweithio mwy o oriau ar gael i ysgolion a chymunedau er mwyn cefnogi mentrau lleol.  

 

“Nid yw’r cynnig yn ceisio lleihau cymorth i bobl ifanc, ond yn hytrach yn ceisio gwella’r ffordd y caiff ei roi.” 

Mae defnyddwyr gwasanaeth presennol yn ogystal â’r gymuned ehangach yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar y cynnig, sydd hefyd i’w drafod yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor craffu Dysgu a Diwylliant. 

 

Byddai’r Cyngor hefyd yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw grŵp cymunedol a hoffai weithio mewn partneriaeth i ddatblygu grŵp ieuenctid.

 

Darllenwch yr adroddiad sy’n nodi’r cynlluniau

  

Ewch ati i ddweud eich dweud

 

 

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 29 Mawrth 2018