Cost of Living Support Icon

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gosod goleuadau LED ym mhob stryd preswyl

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau gosod goleuadau LED newydd mewn strydoedd ledled y Sir yn rhan o broject £1.4 filiwn, a fydd o fudd i’r amgylchedd trwy leihau allyriadau Co2 a chostau ynni. 

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Bydd goleuadau LED yn cymryd lle mwy na 5,000 o lusernau stryd draddodiadol, a fydd yn cael eu gostwng hyd at 50% rhwng canol nos a 6y.b, sy’n golygu y rhoddir terfyn ar oleuadau nos rannol yn yr ardaloedd hyn.

 

 

Gall llusern LED bara am 20 i 25 o flynyddoedd neu 100,000 o oriau o’u cymharu â goleuadau traddodiadol, sydd â hyd oes o dair i chwe blynedd. Mae hyn yn golygu mi fydd gwaith cynnal a chadw’r Cyngor, a chostau atgyweiriadau yn lleihau.

 

 

LED1

 

 

Mae gwaith i osod y llusernau newydd mewn strydoedd preswyl wedi dechrau ym Mhenarth a bydd wedyn yn symud i Ddinas Powys, Sili, Y Barri, Gwenfô, Llanbedr, Y Rhws, Y Bont-faen, Sain Tathan, Llanilltud Fawr, Ewenni/Llandŵ a Saint-y-brid.

 

Mae gwaith ar y gweill ar gynllun i gyflwyno’r goleuadau ym mhob stryd breswyl yn y Fro sydd hebddynt yn y 14 wythnos nesaf.

 

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y Cyngor wedi trawsnewid mwy na 60% o'i seilwaith goleuadau stryd i LED, a gobeithir y bydd cam olaf pellach, i drawsnewid prif ffyrdd i'r dechnoleg hon ddigwydd yn y dyfodol.

 

 

Meddai’r Cyng. Geoff Cox, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Mae’r project cyffrous hwn eisoes ar y gweill a dylai ddod â nifer o fanteision mawr i drigolion yn y Fro.

 

“Nid yn unig y mae’r goleuadau newydd yn hirbarhaol ac felly’n fwy cost-effeithiol i’w cynnal, byddant hefyd yn cael eu gostwng yn hytrach na’u diffodd yn ystod y nos fel na fydd strydoedd mewn tywyllwch am gyfnod.

 

“Dyma gynllun mentrus sy’n golygu y bydd gan yr holl strydoedd preswyl yn y Fro oleuadau LED yn y 14 wythnos nesaf, gydag ardaloedd eraill y Sir yn derbyn diweddariadau tebyg yn y dyfodol.”

 

 

LED2