Cost of Living Support Icon

 

Ysgolion y Fro i golli allan eto medd Arweinydd y Cyngor

Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi rhybuddio y bydd ysgolion y sir yn dioddef toriad llwyr  yn y cyllid i gefnogi disgyblion o leiafrifoedd ethnig a disgyblion sy’n sipsiwn a theithwyr, tra bydd awdurdodau eraill yn derbyn arian ychwanegol.  

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Mae Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig y Cyngor ar hyn o bryd yn cynnig cymorth i ysgolion i helpu disgyblion cymwys sy’n agored i niwed gan gynnwys plant teuluoedd o ffoaduriaid sydd wedi eu hailgartrefu yn y Fro, er mwyn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Heb y cymorth hwn ni fyddai llawer o ddisgyblion yn gallu cyrchu’r cwricwlwm.

Dywedodd y Cyng John Thomas: “Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r Grant Cyflawniad Lleiafrif Ethnig yr arferai pob awdurdod lleol ei derbyn o’r blaen ac yn gwneud iawn am hyn yn y tymor byr drwy gynnig cefnogaeth ariannol i awdurdodau ‘trefol’.   

johnthomas

“Y Fro sydd yn bedwerydd  o ran niferoedd uchaf o ddisgyblion o grwpiau lleiafrifol ethnig yng Nghymru. Mae llythyr gan y Prif Weinidog yn cadarnhau fod tri awdurdod lleol yn derbyn cyllid ychwanegol i alluogi’r gwaith pwysig yma i fynd rhagddo.  Fodd bynnag, nid yw Bro Morgannwg wedi ei gynnwys a bydd yn colli allan unwaith eto, fel y bydd ein disgyblion.


“Mae hyn yn enghraifft bellach o ymagwedd ddisynnwyr ar gyllido addysg gan Lywodraeth Cymru ac yn bilsen anodd ei threulio o ystyried y graddau yr anfanteisir disgyblion y Fro eisoes gan fformiwla cyllido sydd yn annheg.   

 

“Yng nghyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19 bu’n rhaid i ni eisoes ddod o hyd i £3miliwn o gyllid ychwanegol i’r arian a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru. Yn y bôn mae’n amhosib i ni barhau i godi cyllid ychwanegol yn lleol i ddatrys y problemau a gaiff eu creu gan yr hyn sydd yn cynyddol ymddangos fel ymdrech fwriadol i gosbi Bro Morgannwg trwy dan-ariannu.” 

Cyfanswm y grant yma gan y Cyngor ar gyfer gwasanaethau cymorth i ysgolion oedd £240,000 yn 2017/18.Bydd tynnu’r cymorth yn cael effaith drom ar ysgolion penodol megis St Cyres ym Mhenarth lle mae 24% o ddisgyblion o gefndiroedd lleiafrifol. Effeithir hefyd ar nifer o ysgolion cynradd.  

bryn hafren

Dywedodd y Cyng Thomas: “Er nad yw cyllido addysg i rai o’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn ymddangos yn bwysig i Lywodraeth Cymru, mae’n parhau yn fater pwysig i ni yn lleol. Bydd yn rhaid i ni nawr ystyried sut y gallwn ddargyfeirio rhai elfennau cyllid i ffwrdd o wasanaethau hanfodol lleol eraill er mwyn parhau i allu cyllido’r gwaith pwysig hwn yn rhannol o leiaf.”

Ysgrifennodd holl arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru at y Prif Weinidog Carwyn Jones i fynegi pryder ynghylch y penderfyniad i dorri’r Grant Cyflawniad Lleiafrif Ethnig.

 

Golyga’r ymateb diweddaraf fod 19 allan o 22 awdurdod lleol Cymreig wedi eu gadael heb ddim.