Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cwestiynu'r rhesymau dros wrthod cais am gyllid ar gyfer astudiaeth ffordd osgoi

 

Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd John Thomas, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC, yn gofyn yn ffurfiol am esboniad o’r rhesymau dros wrthod cais am gyllid i symud yr astudiaeth o ffordd osgoi bosibl ar gyfer Dinas Powys i‘r cam nesaf.

 

  • Dydd Iau, 03 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae grantiau gwerth mwy nag £1m wedi’u dyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys ffordd gyswllt Pentir Penarth, safleoedd bws newydd ar yr A48 a mentrau diogelwch ar y ffyrdd.

 

Fodd bynnag, cafodd cais am yr £1m sydd ei angen i gwblhau astudiaeth o opsiynau i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth ym mhentref Dinas Powys ei wrthod.

 

Cllr John Thomas

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Dwi’n siomedig iawn fod y cais am gyllid i symud yr astudiaeth trafnidiaeth yn Ninas Powys i gam tri wedi’i wrthod.

 

 

 “Fodd bynnag, rydym ar gam cynnar o hyd, ac nid yw’r ffaith fod y prosiect wedi cael ei wrthod y tro hwn yn golygu na lwyddwn yn y dyfodol.

 


 “Gwnaethom gyflwyno’r cais ar y cyfle cyntaf fel y gallem symud yr astudiaeth ymlaen i’r trydydd cam cyn gynted â phosibl. O ganlyniad, nid ydym ond hanner ffordd drwy gam dau ac rydym yn parhau i ddatblygu cynlluniau manwl am ffordd osgoi bosibl. 

 

 

 “Mae’r prosiect hwn yn bwysig iawn i’r Cyngor ac felly dwi wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pam y cafodd y cais ei wrthod a beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod unrhyw gais yn y dyfodol yn llwyddiannus.”

 

 

Ni fydd y diffyg cyllid ar gyfer cam tri o’r astudiaeth trafnidiaeth yn effeithio ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud na’r cyhoeddiad diweddar fod y prosiect wedi’i ymestyn i gynnwys opsiynau ychwanegol.