Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn bwriadu ymestyn yr ymgynghoriad ar drafnidiaeth yr M4

Cafodd dau lwybr newydd posibl ar gyfer ffordd yn cysylltu’r A48 a chyffordd 34 yr M4 eu datgelu ym mis Ebrill, ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn bwriadu rhoi mwy o amser i drigolion ddweud eu dweud o ran ba lwybr sydd orau ganddynt.

 

  • Dydd Mercher, 30 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg

    Rural Vale

    Barri



Sycamore Cross Road Sign

 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus nawr yn rhedeg tan 17 Gorffennaf ac yn rhoi'r cyfle i chi ddweud eich dweud ar y dewisiadau a gynigir. Comisiynwyd Arcadis Consulting (UK) Limited gan y Cyngor i ddatblygu a gwerthuso dewisiadau posibl ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth o'r M4 i'r A48 yn 2017. 

 

Mae’r penderfyniad i ymestyn yr ymgynghoriad yn dilyn cyfres o sesiynau galw heibio a gynhaliwyd drwy gydol mis Ebrill a Mai gan y Cyngor a roddodd y cyfle i drigolion weld y cynlluniau ar gyfer y ddau lwybr a gynigir, darllen yr adroddiad drafft a gwneud sylwadau o ran ba lwybr sydd orau ganddynt.  

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Cox, Aled Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Yn dilyn diddordeb sylweddol yn y gwaith hwn, penderfynwyd ymestyn ymgynghoriad presennol WelTAG tan 17 Gorffennaf 2018.  

 

“Y gobaith yw y bydd hyn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y gwelliannau posibl ar gyfer yr ardal hon i gyflwyno eu sylwadau a syniadau am unrhyw agwedd ar y gwaith a wnaed gan WelTag hyd yn hyn. Gall hyn gynnwys unrhyw opsiynau newydd, neu farn am wella trafnidiaeth, y gall y Cyngor wedyn eu hystyried.  

 

“Mae proses WelTag yn galluogi’r gwaith o gynnwys neu newid cynlluniau trafnidiaeth posibl wrth i’r broses fynd rhagddi ac, wrth i ni ddysgu mwy am broblemau trafnidiaeth, y cyfleoedd a phroblemau posibl sy’n wynebu’r ardal.”

Byddai'r ddau lwybr a gynigir yn gwella’r cysylltiadau rhwng yr M4 a’r A48, yn lleihau amseroedd teithio i’r maes awyr ac yn helpu i fynd i'r afael â thagfeydd lleol. 

 

Gofynnir i’r cyhoedd, a grwpiau eraill sydd â diddordeb, i wneud sylwadau ar y cynigion cyn i broses WelTAG symud ymlaen i’r cam nesaf sy’n debygol o arwain at gais am gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru. 

 

Wela y cynigion a dweud eich barn drwy'r arolwg