Cost of Living Support Icon

 

Daeth lluoedd o bobl i archwilio’r Fro yn rhan o nawfed Gŵyl Gerdded y Sir

Bu nawfed gŵyl gerdded flynyddol y Fro yn llwyddiannus gyda lluoedd o bobl yn mwynhau crwydro yn y sir yn rhan o’r ŵyl flynyddol.

  • Dydd Mawrth, 22 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Trefnir yr ŵyl gan Valeways ac fe'i cefnogir gan Gyngor Bro Morgannwg a phartneriaid eraill, ac mae'n annog cerddwyr profiadol, cerddwyr hamddenol, teuluoedd a phlant o bobman i gymryd rhan. Yn rhan o'r rhaglen, cynhaliwyd 28 taith gerdded yn y Fro oedd yn amrywio o 2 i 8 milltir, o 15 tan 20 Mai.  

 

Daeth 30 o bobl i Barc Gwledig Porthceri ddydd Mawrth 15 Mai, gan gynnwys Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Leighton Rowlands, ar gyfer y daith gerdded gyntaf.

 Mayor at walking festival

 

 

 

Nod y daith gerdded o gwmpas Parc Gwledig Porthceri oedd edrych ar hanes y parc, a sut mae ap RE Porthceri yn helpu i ddod â’r gorffennol yn fyw.  

 

 

Dywedodd y Cyng. Rowlands: “Mwynheais yn fawr gymryd rhan yn nhaith gerdded gyntaf yr ŵyl o gwmpas Porthceri, ac roedd yn ffordd wych o ddysgu mwy am hanes y parc, gyda help yr ap RE.

 

“Mae Gŵyl Gerdded Bro Morgannwg yn ffordd wych o ddangos i bobl y bywyd gwyllt, y parciau a’r llwybrau sydd gennym ym mhob rhan o’r sir, a gobeithio bod yr wythnos wedi annog mwy o bobl i ddod i’r Fro'r haf hwn.”

 

 

 

 Walking Festival 2018 (17)

 

 

 

Dywedodd Gwyn Teague, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus: “Roedd y tywydd yn ffantastig ar gyfer yr ŵyl, ar y diwrnod lansio a thrwy gydol y digwyddiad. Roedd hyn yn newyddion gwych ar gyfer gŵyl eleni yr aeth llawer o bobl iddi.  

 

"Rwy’n credu y daeth 30-40 o bobl ar y daith gerdded gyntaf a daeth ychydig yn fwy i Gaban Parc Gwledig Porthceri ar gyfer yr agoriad.”

 

Walking Festival 2018 (30)