Cost of Living Support Icon

 

Diwrnod o hwyl i’r teulu'n nodi agor ardal chwarae Badgers brook ar ei newydd wedd

Mae’r ardal chwarae yn Badgers Brook Rise, Ystradowen, wedi cael gwerth £50,000 o waith adnewyddu.

 

  • Dydd Mercher, 09 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Cynhaliwyd sesiynau ymgynghori ym mis Mehefin y llynedd, yn rhoi cyfle i breswylwyr weld y cynigion ar gyfer y gwaith diweddaru. Cwblhawyd 30 o holiaduron, a derbyniwyd pedwar e-bost ac un llythyr arall ar ôl y digwyddiad.

 

Cynhaliwyd diwrnod o hwyl i’r teulu yn ystod gŵyl y banc mis Mai a daeth dros 100 aelod o’r gymuned at ei gilydd i ddathlu agoriad yr ardal chwarae newydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaeth Tai ac Adeiladau, y Cynghorydd Andrew Parker: “Roedd hi’n braf gweld mwy na 100 o bobl yn y diwrnod hwyl, ac roedd hi’n bleser agor ardal chwarae Badgers Brook yn swyddogol.

 

“Mae’n amlwg bod y tîm wedi gweithio’n galed iawn, ac wedi gwrando ar syniadau’r preswylwyr.  Mae’r ardal hon yn un o sawl ardal chwarae sydd wedi’u huwchraddio gan Gyngor y Fro, ac rwy’n gobeithio bod cymaint o deuluoedd â phosibl sy’n byw yn Ystradowen, yn ogystal ag ar draws y Fro, yn gallu mwynhau’r ardal chwarae hon.”

 badgers brook opening

 

 

 

 

 

 

Dechreuwyd y gwaith ar ddiwedd mis Ionawr, a chafodd y gwaith dylunio ei selio ar thema llannerch coetir a natur ar ôl awgrymiadau a gafwyd o’r ymgynghoriad.

 

Roedd y gwaith yn cynnwys gwaredu’r offer chwarae presennol a’i ddisodli gydag ardal chwarae newydd ag arwyneb diogel, siglenni, offer dringo, offer chwarae arall a seddau newydd. Bydd llwybr cerdded newydd yn cynnig mynediad rhwydd at yr ardal chwarae o’r mynediad ger Cilgant Sant Owain.

 

Dywedodd Rod Howells, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymuned a Chwaraeon Ystradowen: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gwblhau’r gwaith o adnewyddu Ardal Chwarae Badgers Brook, ac fel cymuned, rydym wedi gwerthfawrogi'r cymorth a'r arweiniad y mae'r tîm wedi ei roi i ni yn ystod y gwaith datblygu.

 

"Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rheoli’r project hwn yn dda iawn ac mae wedi bod yn bleser i weithio gyda phob swyddog oedd ynghlwm, rydych wedi meddwl yn sensitif am ofynion y gymuned, wedi gweithio’n dda â rhanddeiliad ac wedi sicrhau ardal chwarae newydd i blant y pentref. Rwy’n gwybod bydd yr holl gymuned yn mwynhau’r cyfleuster gwell hwn am flynyddoedd i ddod”.

 

 

 Peppa pig and friends