Cost of Living Support Icon

 

Our Vale- Ein Bro, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoedds Bro Morgannwg, yn lansio cynllun llesiant 

Lansiwyd y cynllun yn Oriel HeARTh yn Ysbyty Llandochau gydag aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yno. 

 

  • Dydd Mercher, 23 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Daw’r BGC ag uwch arweinwyr o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ynghyd i gydweithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal. 

 

Ein Bro – Ein Dyfodol yw Cynllun Llesiant cyntaf y BGC ac mae’n egluro’r ffordd y bydd partneriaid yn cydweithio i gyflawni eu gweledigaeth hirdymor ar gyfer Bro Morgannwg.  Mae’r Cynllun wedi ei seilio ar bedwar amcan llesiant sef:

  • Galluogi pobl i gyfranogi, cymryd rhan yn eu cymunedau lleol a siapio gwasanaethau lleol;
  • Lleihau tlodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag amddifadedd;
  • Rhoi’r cychwyn gorau ar fywyd i blant; ac
  • Amddiffyn, gwella a gwerthfawrogi’r amgylchedd

Mae’r Cynllun yn nodi’r camau y bydd y partneriaid yn eu cymryd i wireddu’r amcanion ac fe’i crëwyd ar sail asesiad llesiant ac ymgysylltu helaeth ac ymgynghori. Mae’r cynllun llesiant a’r Asesiad i’w cael ar wefan BGC a gafodd ei lansio heddiw hefyd.  

 

Siaradodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd y BGC yn y lansiad a fynychwyd gan ddosbarth Elderfit a phlant lleol gan helpu i danlinellu pwysigrwydd y cynllun i bobl o bob oed.

‘Mae’r cynllun yn garreg filltir arwyddocaol ar daith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n ganlyniad dwy flynedd o waith caled ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddod i rym.  Mae hefyd yn benllanw ar yr holl waith da a oedd yn digwydd eisoes yn y Fro ac yn gyfle i ni adeiladu egni a chreu momentwm drwy’r holl faes.  

 

Yn ddi-os, mae’r ddeddfwriaeth newydd wedi bod yn sbardun i lawer o newid – mae’n ein rhoi ni oll dan y chwyddwydr er mwyn sicrhau ein bod nid yn unig yn newid yr hyn a wnawn ond y modd y byddwn yn ei wneud hefyd.  Wrth galon gweledigaeth y BGC mae awydd i weld ‘y bydd gan bawb ymdeimlad o berthyn a’u bod yn falch o fod yn rhan o’r Fro.’  Wrth gyflawni’r cynllun hwn credaf y gallwn wireddu hyn. 

Bydd y camau a gymerwn i wireddu ein hamcanion yn ein helpu i gyflawni hyn. Rydym am weld pawb - ifanc a hen, y rheiny sy’n byw mewn trefi neu bentrefi, ar y glannau neu yng nghefn gwlad - i fod yn falch o le maen nhw’n byw, i deimlo’n rhan o gymuned ac i fod â hyder yn a chwarae rhan yn y gwasanaethau a dderbyniant.”

Croesawodd Cadeirydd BIP Caerdydd a’r Fro, Maria Battle, bawb i oriel HeARTh ac anogodd bartneriaid i dreulio amser yn edrych ar yr arddangosfa ‘Llif: creadigrwydd, dawns a symudiad mewn adferiad’ sy’n ffurfio rhan o ŵyl Gwanwyn 2018. Yna cymerodd yr aelodau ran mewn dosbarth Elder Fit i gynnal ffocws ar lesiant. 

  

 

I gael y newyddion diweddaraf am y BGC a’r cynnydd gyda’r cynllun Llesiant dilynwch @VOGPSB ar Twitter.