Cost of Living Support Icon

 

Dweud eich Dweud ar Gynlluniau Priffyrdd a Thrafnidiaeth Gynaliadwy ger Penarth Heights 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn cyfraniad ariannol sylweddol o £1.4 miliwn gan ddatblygwyr Penarth Heights ar gyfer gwelliannau Trafnidiaeth Gynaliadwy yn ardal y safle, ac yn bwriadu clywed barn preswylwyr lleol. 

 

  • Dydd Llun, 14 Mis Mai 2018

    Penarth



Cafodd y cyfraniad ariannol ei sicrhau gan Gytundeb Adran 106 sy’n gofyn i’r cyfraniad gael ei wario ar wella mynediad i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, tacsis neu ranwyr ceir ger Penarth Heights. 

 

Mae nifer o gynlluniau eisoes wedi’u gweithredu yn sgil y cyfraniad ariannol, gan gynnwys: 

  • croesfannau sebra ar Plassey Street;
  • y cynllun goleuadau ar y llwybr igam-ogam;
  • llwybr troed coetir a grisiau o Paget Road i Farina Penarth;
  • parcio beiciau ar gyfer cyrchfannau allweddol ym Mhenarth; a 
  • llwybr gwyriad gwasanaeth bws 95A.

Yn ogystal â’r cyfraniad trafnidiaeth gynaliadwy fel y’i nodir uchod, mae’r Cyngor hefyd wedi derbyn £160,000 yn ychwanegol i’w wario ar wella priffyrdd ar gyfer symudiadau cerbydau, a gafodd ei sicrhau yn rhan o’r Cytundeb Adran 106.

 

Felly bu'r Cyngor yn ystyried nifer o opsiynau ar gyfer gwelliannau i Gylchfan Windsor Road/Plassey Street a gwella’r drefn a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd yn yr ardal hon i greu ‘Porth’ deniadol i Ganol Tref Penarth. 

 

Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth ar yr opsiynau gwahanol, a byddai’n falch o glywed unrhyw syniadau eraill sydd gan breswylwyr ar gyfer gwella cyfleusterau cerdded a beicio a seilwaith yn yr ardal hon. 

 

Dyma’r opsiynau: 

  1. Cyffordd cylchfan wedi’i hail-alinio
    Byddai’r opsiwn hwn yn cadw cyffordd cylchfan. Câi ynys ganolog y gylchfan ei hehangu er mwyn lleihau cyflymder cerbydau sy'n mynd trwy'r gyffordd.

  2. System Unffordd – Plassey Street
    Mae’r opsiwn hwn yn cynnig dileu’r gylchfan a gosod cyffordd tair ffordd gydag arwyddion a chroesfannau twcan. 

  3. Cyffordd ildio
    Mae’r opsiwn hwn yn cynnig gwaredu’r gyffordd a’r prif lwybr fyddai Windsor Road, a byddai cyffordd-T newydd yn cael ei gosod er mwyn cysylltu Windsor Road a Plassey Street. Ni fyddai arwyddion yn cael eu gosod ar y Gyffordd-T.

  4. System un ffordd gyflawn
    Byddai’r opsiwn hwn yn rhoi system un ffordd gyflawn ar Windsor Road o'r gyffordd gyda'r Stryd Fawr, yn teithio i’r gogledd tuag at Cogan, ac yn teithio i’r de o Cogan ar hyd Plassey Street hyd at y gyffordd gyda’r Stryd Fawr.   


Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio:

“Mae’r cynlluniau sydd eisoes wedi’u gweithredu yn ychwanegiad gwych ac maent wedi gwella mynediad i’r rheiny sy’n byw yn neu ger Penarth Heights.  Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud i wella cysylltiadau i feicwyr a cherddwyr i ganol y dref a’r gorsafoedd trên cyfagos i hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy. Wrth wella mynediad o amgylch yr ardal hon, mae cyfle i greu mynediad porth deniadol i Ganol Tref Penarth. 


 “Hoffem glywed beth yw barn preswylwyr ar yr opsiynau sydd wedi’u cynnig, a byddwn yn edrych i weithredu cynllun yn hwyrach ymlaen eleni.”

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy gwblhau’r arolwg ar-lein neu fynychu sesiwn galw heibio.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar yr opsiynau a awgrymwyd ar gyfer gwelliannau ar ein gwefan.