Cost of Living Support Icon

 

Lansiad ail ymgynghoriad ar welliannau arfaethedig i addysg gynradd yng Ngorllewin y Fro

Mae ail ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau ar gynigion i adeiladu adeilad ysgol â 210 lle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llancarfan, gyda 48 o leoedd meithrin ychwanegol, yn Y Rhws.

 

  • Dydd Mawrth, 22 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Caeodd ymarfer ymgynghori cychwynnol, a lansiwyd ym mis Mawrth, yn gynharach y mis hwn. Daeth hyn â phryderon cyffredin i'r amlwg gan rieni a thrigolion lleol. Mae gwybodaeth ychwanegol bellach wedi'i darparu i fynd i'r afael â'r rhain.  

 

Mae'r ail ymgynghoriad yn ceisio barn llywodraethwyr, staff, rhieni a thrigolion lleol ar rinweddau addysgol y cynnig yn dilyn y wybodaeth ychwanegol.

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: "Ym mis Mawrth, lansiodd y Cyngor ymgynghoriad newydd â’r bwriad o gael golwg cyfannol ar ddarpariaeth ysgolion cynradd yng Ngorllewin y Fro. Yn ystod yr ymarfer hwn cododd aelodau'r gymuned leol nifer o bryderon pwysig ynghylch yr effaith i'w hardal leol, yn ogystal â rhai cwestiynau am y cynnig.  

 

"Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a'r cymunedau ehangach yr ydym oll yn eu gwasanaethu, y gallwn ni wireddu ein gweledigaeth ar gyfer gwell addysg gynradd i Orllewin y Fro.  

 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod ymgynghoriadau yn ystyrlon, yn berthnasol a bod cynigion priodol yn glir, yn dryloyw ac yn adlewyrchu safbwyntiau'r rhai yr effeithir arnynt. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn cymryd o ddifrif. 


"Mae'r adborth a ddarparwyd yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol wedi bod yn hynod werthfawr. Mae adolygiad thematig o'r materion a godwyd bellach wedi'i gwblhau.  

 

"Rydym yn hyderus y gellir mynd i'r afael â llawer o'r pryderon a godwyd, er enghraifft, dyfodol adeilad yr ysgol, trwy ddarparu ychydig mwy o wybodaeth a rhywfaint o sicrwydd i gymunedau lleol. Dyna pam mae ail ymgynghoriad ac Asesiad Effaith Gymunedol ddiwygiedig, sydd â llawer mwy o fanylion, yn cael eu lansio ar rai o'r materion cysylltiedig."

Bydd yr ail ymgynghoriad yn rhedeg tan 9 Gorffennaf. Darperir dogfen ymgynghori ddiwygiedig i'r holl rieni, staff a llywodraethwyr. Gellir cyflwyno ymatebion ar-lein, dros e-bost i consultation@valeofglamorgan.gov.uk neu’n ysgrifenedig.