Cost of Living Support Icon

 

Swyddfa Archwilio Cymru am glywed barn trigolion y Fro ar raglen wella’r SATC

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn awyddus i glywed barn trigolion y Fro ar y modd y mae'r Cyngor wedi cynnwys trigolion yn y gwaith o gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

 

  • Dydd Mawrth, 01 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Er mwyn sicrhau bod pob cartref yn cyrraedd lefel dderbyniol, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen, Safon Ansawdd Tai Cymru. Safon yw hon sy’n diogelu ansawdd a chyflwr eiddo, ac mae’r ddogfen yn cynnwys nifer o

dargedau y bydd angen i bob cartref eu bwrw.

Wales AO - logo

 

Un o brif amcanion Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pobl Cymru, gan gynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, yn cael cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd dda, mewn cymunedau diogel.

 

 

Mae Gwasanaethau Tai ac Adeiladau Cyngor Bro Morgannwg yn berchen ar dros 3,940 o gartrefi cymdeithasol. Bydd angen i bob un o’r rhain gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.

 

 

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn trefnu cyllideb flynyddol ar gyfer gwaith gwella Tai, ac roedd £16m wedi cael eu buddsoddi yn waith gwella tai, yn 2017/18. Mi fydd £20m yn cael eu buddsoddi yn 2018/19. Caiff hyn ei ariannu gan gyfuniad o incwm rhent tŷ'r Cyngor, arian benthyca (benthyca darbodus) ac incwm o werthu tir ac eiddo sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

 Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau’n ymwneud â rheoli asbestos, gosod ac addasu cymhorthion, a gwaith brys.

 

 

Bydd cwmni ymchwil yn cynnal yr adolygiad, drwy arolygon ffôn, a bydd angen iddyn nhw ffonio dros y penwythnos a gyda'r nos, er mwyn sicrhau y gallant gyrraedd amrediad mor eang â phosibl o bobl, gan gynnwys les-ddeiliaid.

 

 

Os cewch gais i fod yn rhan o’r arolwg, bydd yn rhaid i’r sawl sy’n eich ffonio egluro sut y bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio. Mae’r arolwg ffôn yn ddewisol, ac os bydd y cwmni’n cysylltu a chi, nid yw’n orfodol arnoch i gymryd rhan os nad ydych yn dymuno.

 

 

Byddwch hefyd yn cael gwybod y bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i gynhyrchu adroddiad fydd ar gael i’w ddarllen ar wefannau'r Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru.