Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Wythnos Weithredu dros Ddementia 

Mae Wythnos Weithredu dros Ddementia yn cymryd lle o ddydd Llun 21 – dydd Sul 27 Mai, ac yn fwriadau codi ymwybyddiaeth yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth i bobl.

 

  • Dydd Mercher, 23 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim, drwy'r wythnos.

 

Mae Tŷ Rondel yn Stryd Maes y Cwm, yn ganolfan gofal i oedolion, sydd hefyd yn cynnig cymorth i deuluoedd a gofalwyr, yn gwahodd pobl i ymuno a nhw am luniaeth, gweithgareddau ac adloniant

 

Dyweodd Mary, sydd yn defnyddio’r gwasanaeth yn Tŷ Rondel: "Roeddwn i arfer gweithio yma, yn y gegin blynyddoedd yn ôl, a nawr rydw i’n dod yma bob wythnos.

"Mae hi’n wych i fynychu diwgyddiadau, rydw i’n hoffi darllen a chreu gwaith celf yma."

 

 

 rondel house service users

 

 

 

Dywedodd Rheolwr Canolfan Adnoddau, Anne Lintern : “Rydyn ni yma i gefnogi gofalwyr a phobl sydd â dementia. Rydyn ni yn anelu i fod yn ganolog i gymuned gyfeillgar i ddementia yn y Barri, yn ogystal ag ymestyn i gymunedau eraill. Mae’r gwaith galed yn gwerth chweil, os allen ni helpu un person yn unig."

 

 

art work at rondel house

 

Mae Sioe Deithiol Ymwybyddiaeth Dementia yn cymryd lle yn Ynys y Barri, ac mae Is Neuadd y Bont-faen yn cynnal sessiwn o'r enw 'Memory Jar', sydd yn fan tawel i bobl â chyfnod cynnar o ddementia i gychwyn siarad gyda'i gofalwyr.

 

 

Darllenwch fwy am ddigwyddiadau Wythnos Weithredu dros Ddementia