Cost of Living Support Icon

 

Un o glybiau bowlio’r Fro y cyntaf yn y sir i dderbyn gwobr arbennig am ei ymrwymiad i chwaraeon anabl

Mae Clwb Bowlio Dan Do’r Sili wedi derbyn gwobr Rhuban Insport, am gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon.  

 

  • Dydd Gwener, 18 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Y Clwb yw’r cyntaf ym Mro Morgannwg i ennill gwobr Rhuban Insport, sy’n fenter wedi ei chreu gan Chwaraeon Anabledd Cymru gyda’r nod o ddangos pa mor gynhwysol y mae clybiau chwaraeon cymunedol.

 

Gyda dros 1,000 o aelodau, mae gan y clwb nod o greu rhagor o gyfleoedd bowlio cynhwysol ar gyfer pobl yr ardal leol.

 

Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg, Simon Jones: “Mae’n wych gweld un o’n clybiau mwyaf yn dangos sut mae modd cynnwys pawb yn eu gweithgareddau. Mae Clwb Bowlio Dan Do'r Sili wedi bod yn rhagweithiol iawn yn yr ymdrech i sicrhau bod darpariaeth ar gael i bobl anabl a'u galluogi i fwynhau Bowlio ochr yn ochr â phawb arall."

 

Mae’r clwb ar agor rhwng 10.00 am a 9.00 pm bob dydd, ac mae croeso i aelodau newydd. 

 

 

sully bowls club win award