Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn torri record drwy dderbyn saith gwobr mannau arfordirol

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn saith gwobr am ei fannau arfordirol mewn cydnabyddiaeth o’u hansawdd.

 

  • Dydd Gwener, 18 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg

    Barri

    Penarth

    Rural Vale



Derbyniodd Bae Whitmore, Southerndown a Marina Penarth Faneri Glas gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol, gyda’r ddau gyntaf hefyd yn derbyn Gwobrau Glan y Môr, ynghyd â Bae Jacksons a’r Cnap.


Yn cael ei chydnabod ledled y byd, ystyrir y Faner Las yn safon aur ar gyfer traethau. 


Mae Baner Las yn gwarantu ansawdd y dŵr, ond mae’n rhaid bwrw cyfanswm o 33 o dargedau mewn pedwar categori er mwyn ennill y Faner Las.


coastawards1Mae Penarth yn un o ddim ond tri o farinas yng Nghymru i dderbyn y clod hwn, ac mae Southerndown ar restr y Faner Las am y tro cyntaf. Golyga hyn fod tri o draethau’r Fro bellach ar y rhestr.


Mae traeth Southerndown hefyd wedi ennill Dyfarniad Glan y Môr, fel y mae Bae Jackson a’r Cnap.


Mae Gwobrau Glan Môr Cadwch Gymru’n Daclus yn dathlu ansawdd ac amrywiaeth arfordir y Sir.


Gwobrau Arfordir o Ansawdd oedd enw’r cynllun hwn gynt, ac mae’n safon genedlaethol ar gyfer traethau gorau'r Deyrnas Unedig gyfan. 


Mae traethau’r Gwobrau Glan Môr yn amrywio’n fawr o leoliad i leoliad, ond mae'n warant eu bod yn lân, yn ddiogel, yn ddeniadol ac wedi eu rheoli'n dda. 

 

coastawards2Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu ychwanegu at nifer y traethau Baner Las yn y Fro, a llwyddo cystal yn y gwobrau Glan Môr.


“Mae gennym arfordir godidog, ac mae’n addas iawn ei fod wedi ei anrhydeddu fel hyn. Nid prydferthwch naturiol yn unig sydd wrth wraidd y llwyddiant hwn, fodd bynnag. Mae hefyd yn destament i waith caled staff y Cyngor yn sicrhau y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau'r mannau ysblennydd hyn.


“Bydd pawb sy’n gwerthfawrogi ein traethau yn siŵr o ymuno gyda fi i ddiolch i'r staff am eu hymdrechion."

 

Mae gan y Fro hefyd saith o fannau Baner Werdd, nod ansawdd mannau awyr agored o’r radd flaenaf.


Mae gan Barc Romilly, y Parc Canolog, Parc Victoria, Gerddi’r Cnap, Promenâd a Gerddi Ynys y Barri, Parc Belle Vue a Pharc Alexandra/Gerddi Windsor Faneri Gwyrdd, a gobaith y Cyngor yw y bydd rhagor o leoliadau yn ymuno â nhw pan gyhoeddir rhestr 2018 ymhen ychydig fisoedd.