Cost of Living Support Icon

 

Lansio clwb gwaith cartref Cymraeg i deuluoedd plant mewn ysgolion Cymraeg

 

Mae clwb gwaith cartref newydd, Clwb Ni, a gydlynir gan Dysgu Cymraeg - Y Fro, bellach yn cael ei gynnal unwaith yr wythnos ar ôl ysgol yng Nghanolfan Ddysgu Palmerston yn y Barri.

 

  • Dydd Mercher, 02 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Ym mis Ionawr eleni, dyfarnwyd Grant Arloesi o £26,000 i Dysgu Cymraeg - Y Fro drwy Lywodraeth Cymru, i’w alluogi i sefydlu clwb gwaith cartref i deuluoedd plant mewn ysgolion Cymraeg, mewn partneriaeth â’r Urdd, Menter Bro Morgannwg a Mudiad Meithrin.  

 

Cafodd holl ddarparwyr  y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eu gwahodd i wneud cais am grant i lunio arfer arloesol mewn perthynas â sefydliadau lleol neu genedlaethol eraill. 

 

Mae’r sesiynau galw heibio di-dâl newydd yma yn cynnig cymorth i oedolion Cymraeg a di-gymraeg ledled y Fro, ac yn creu cyfleoedd i blant a rhieni ddysgu gyda'i gilydd.

 homework club game

 

 

 

Mae Dysgu Cymraeg – Y Fro yn cynnig cymorth i rieni sydd wedi dewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant, a gall gynnig cyngor arbenigol i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain, a'r rheiny sy'n dysgu Cymraeg.

 

Mae’r clwb wedi bod ar waith ers mis Ebrill ac mae pob plentyn yn cael cerdyn aelodaeth, a gaiff ei stampio bob tro, sy’n cynnwys lle hefyd i ysgrifennu nodyn y gellir ei rannu ag athro ysgol yn dweud beth wnaeth y plentyn yn ystod y sesiwn. 

 

Bydd teuluoedd yn cael cymorth gyda llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, yn ogystal â chyngor a chymorth gyda thasgau gwaith cartref a sgiliau yn y Gymraeg. Bydd yr Urdd yn trefnu gwahanol weithgareddau gan gynnwys gemau a chwaraeon. 

 

Cynhelir y dosbarthiadau bob dydd Mawrth o 4-6pm a bydd y cynllun peilot yn parhau tan ddydd Mawrth 10 Gorffennaf. Bydd Mudiad Meithrin hefyd yn cynnig gwasanaethau gofal plant, gan gynnwys amser stori i’r plant ieuengaf. 

 

Dywedodd Dirprwy Faer Cyngor Bro Morgannwg, Leighton Rowlands: “Mae clwb gwaith cartref Cymraeg yn gyfle gwych i ddod â theuluoedd ynghyd, yn ogystal ag annog pobl ledled y Fro i ddefnyddio’r Gymraeg.

 

“Rydw i’n gobeithio y bydd sawl teulu yn y Fro yn manteisio ar y clwb, ac yn cael budd o’r gwasanaethau a gynigir ganddo.”

 

group pic at homework club