Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn gweithredu i orfodi cynnydd wrth ddatblygu canol ardal y Glannau

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi awdurdod i swyddogion cynllunio i gyflwyno Hysbysiad Tor-amod Gorfodi a Hysbysiad Atal i ddatblygwyr Glannau’r Barri.

 

  • Dydd Gwener, 30 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg

 

 

Barry Waterfront Development

 

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi awdurdod i swyddogion cynllunio i gyflwyno Hysbysiad Tor-amod Gorfodi a Hysbysiad Atal i ddatblygwyr Glannau’r Barri.

 

Cymerwyd y camau yn dilyn oedi parhaus ar adeiladu canolfan ardal o siopau a bwytai y disgwylid iddi fod wedi ei chwblhau erbyn Medi 2017. 

 

Roedd hysbysiad atal dros dro 28 diwrnod eisoes wedi ei gyflwyno i’r consortiwm o ddatblygwyr cyn y cyfarfod i atal gwerthu unrhyw dai newydd ond bellach gellir cymryd camau parhaol mwy llym. Dywedodd y Cyng.

 

Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Nid yw’n dderbyniol i ddatblygwyr ddangos y fath ddiffyg sylw i’w hymrwymiadau. Mae Glannau’r Barri bellach yn gymuned ffyniannus ac rydym am weld y gwaith i’w datblygu yn parhau yn y cywair hwn. Mae hyn yn golygu cyflawni’r cynllun y cytunwyd arno ar y dechrau, nid dim ond rhan ohono.   

 

“Er mwyn dal y datblygwyr yn driw i hyn, mae tîm cynllunio’r Cyngor eisoes wedi cyflwyno hysbysiad atal dros dro 28 diwrnod i Gonsortiwm Datblygu’r Glannau. Golyga hyn y gallent gael eu herlyn os ydyn nhw’n hwyluso meddiannaeth bellach ar yr eiddo dan sylw yn ystod y cyfnod hwn.  

 

“Mae pwyllgor cynllunio’r Cyngor bellach wedi cymeradwyo hysbysiad atal ffurfiol a allai wedyn wahardd meddiannaeth bellach hyd nes y byddwn wedi’n bodloni eu bod yn gweithio i gyflawni eu hymrwymiadau yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd iddynt, a chwblhau’r ganolfan ardal.

Mae’r Hysbysiadau Tor-amod Gorfodi ac Atal yn rhoi’r grym i’r Cyngor fynnu bod meddiannaeth ar unedau penodol yn cael ei hatal o fewn y datblygiad neu atal adeiladu rhai elfennau ar y datblygiad nes bod y ganolfan ardal, neu elfennau ohoni, yn cael eu cwblhau. 

 

Mae awdurdod wedi ei roi hefyd i ddechrau ar gamau cyfreithiol os na chydymffurfir â’r Hysbysiad Gorfodi.