Cost of Living Support Icon

 

Cynghorau yn galw am ymateb gan fasnachwyr canol y dref

Galwodd Cynghorau Bro Morgannwg a Thref y Barri am ymateb gan fusnesau lleol wrth iddynt ar y cyd gynnal uwchgynhadledd gyntaf canol y dref.

 

  • Dydd Iau, 15 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



 

Ar ddydd Mawrth 13 Tachwedd, cyfarfu busnesau lleol, cynrychiolwyr grŵp masnachwyr Heol Holltwn a swyddogion o Gynghorau Bro Morgannwg a Thref y Barri i drafod yr heriau sydd yn wynebu canol tref y Barri, a sut orau i gydweithio i’w goresgyn nhw. 

 

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg, Rob Thomas a Chlerc Cyngor Tref y Barri, Emily Forbes. Siaradodd Robyn Walsh, y Swyddog Datblygu Cymunedol am Ymgyrch Siopa’n Lleol y dref, a gafodd ei chydnabod fel llwybr ymgysylltu allweddol â masnachwyr lleol.

 

Vale MD speaking at the summit

 

 

Cafwyd gweithdai rhyngweithiol er mwyn blaenoriaethu ffyrdd y gallai’r partneriaid a busnesau lleol gydweithio er mwyn gwneud canol y dref yn fwy deniadol a dichonadwy. Daeth themâu cyffredin i’r wyneb gan gynnwys Ardal Wella Busnes posib, creu siopau untro, lleihau siopau gwag a chynnal digwyddiadau lleol. Bydd y nodiadau o’r gweithdai yn cael eu casglu ynghyd i greu adroddiad adborth er mwyn blaenoriaethu’r gwaith yn symud ymlaen.

 

Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Mae'r stryd fawr ledled y DU yn wynebu heriau anferth, gyda chau siopau mawrion yn digwydd yn ddyddiol. Nid yw’r Barri yn eithriad gyda sawl colled arwyddocaol yn ddiweddar.

 

“Yn amlwg mae’r dirwedd masnachu busnesau canol tref yn newid yn gyflym. Er ei bod

hi’n wir nad yw’r hen ddulliau o wneud busnes yn effeithiol mwyach, rhaid cydnabod fod

cyfleoedd newydd a chyffrous yn dod i’r wyneb.

 

“Mae gennym oll ein rhan i’w chwarae er mwyn gwireddu’r cyfleoedd hyn ac mae’n amlwg

fod cydweithio yn cynnig siawns dipyn mwy o lwyddo na gweithredu’n unigol ac mae’n

hynod galonogol gweld ymrwymiad i’r egwyddor honno gan bawb yn yr uwchgynhadledd.”

 

 Traders at the town centre summit

 

 

Dwedodd Wendy O’Connor, perchennog siop flodau Bluebells: “I mi y cyfarfod neithiwr

oedd yr un gorau i mi ei fynychu hyd yma ac roedd yr eglurhad ynghylch bidio yn ddiddorol."

 

 

Mae manylion pellach am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fusnesau lleol drwy gyfrwng tîm datblygu economaidd y Cyngor i’w cael ar-lein yma Bro Morgannwg