Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgell yn datgelu llenni Pabïau i anrhydeddu dynion y Barri a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae llen pabïau wedi'i gwau â llaw yn cael ei harddangos yn Llyfrgell y Barri, i anrhydeddu'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

 

  • Dydd Gwener, 02 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae cyfanswm o 1149 Pabi wedi cael eu gwau i mewn i dri llen ar wahân, ac mae pob un yn cynrychioli dynion y Barri a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Roedd aelodau Sefydliad y Merched y Barri, a greodd y llenni yn y grŵp Gwau a Chlonc lleol, yn y lansiad swyddogol ar ddydd Mercher 24 Hydref.

 

Mayor and guests

 

 

Agorwyd y digwyddiad gan Faer y Fro, y Cyng Leighton Rowlands, a wahoddodd y Lleng Prydeinig i ddechrau gwerthu’r pabïau, ynghyd â Maer Tref y Barri, y Cyng Janice Charles ac AC y Fro, Jane Hutt.

 

Dywedodd y Cyng Rowlands: "Rydym yma oherwydd bod merched Sefydliad y Merched y Barri wedi creu llenni pabi coffa drwy wau pabïau er mwyn anrhydeddu pob dyn o'r Barri a roddodd eu bywydau ym mrwydrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

"Gydag arweiniad oddi wrth Dr Jonathan Hicks ein hanesydd rhyfel lleol o fri a'i lyfr diweddar, maent wedi gwau 1149 pabi.

 

"Gofynnodd Sefydliad y Merched i'r Lleng Brydeinig Frenhinol am help i ddod o hyd i leoliad addas i arddangos y llenni yn ystod apêl y pabi. Gwnaeth Teresa o'r Lleng Brydeinig bleidlais ar-lein gyflym a Llyfrgell y Barri oedd y lleoliad mwyaf poblogaidd."

 

Poppy curtain