Cost of Living Support Icon

 

Maer yn canmol trefnwyr y Parkrun am drefnu’r ras Gavin and Stacey gyntaf

Y Cynghorydd Leighton Rowlands wedi canmol trefnwyr Parkrun y Barri, ar ôl i dros 500 o redwyr gymryd rhan mewn ras arbennig ddydd Sadwrn.

  • Dydd Llun, 05 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



 Cllr Dadds, Cllr Rowlands and Alun Cairns MP (L-R)

Ymunodd y Cynghorydd Rowlands, y Cynghorydd David Dodds, Maer Cyngor Bwrdeistref Basildon ac Alun Cairns AS â channoedd o redwyr, oedd yn cynnwys cynrychiolaeth dda o Billericay yn y Parkrun Gavin and Stacey gyntaf. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Rowlands:

 

“Mae mentrau fel y Parkrun yn gwneud ymarfer corff yn rhywbeth i’w fwynhau, ac yn ffordd bwysig iawn o helpu pobl i fyw bywydau iachach. Mae’r digwyddiad ar Ynys y Barri yn benodol yn enghraifft wych o’r ffordd y mae gwirfoddoli yn gallu gwella cymunedau lleol mewn ffordd bwerus.   

 

“Rhaid rhoi canmoliaeth fawr i drefnwyr y digwyddiadau ar Ynys y Barri ac yn Billericay y penwythnos hwn.  Nid yn unig y mae wedi denu hyd yn oed mwy o redwyr allan ar fore Sadwrn, mae unwaith eto wedi tynnu sylw pobl o bob rhan o’r wlad at ganolfan gwyliau Ynys y Barri sydd o’r radd flaenaf.  

 

“Hoffwn hefyd ddiolch i staff y Cyngor a Parkrun UK a wnaeth y digwyddiad yn bosibl.”  

Fel rhan o’i ddyletswyddau dinesig y Cynghorydd Rowlands sy’n goruchwylio Cronfa Gymhorthdal Sefydledig y Maer. Bydd Cronfa Grant Sefydliad y Maer yn cynnig grantiau i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw ar gyfer costau mentrau ym Mro Morgannwg sy’n cefnogi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer cymunedau cryf â dyfodol disglair. 

 

Cronfa Grant Sefydliad y Maer