Cost of Living Support Icon

Rolau Gwag Pwyllgor

Caiff Aelodau Annibynnol eu penodi am gyfnod rhwng pedwar a chwech mlynedd a gallent gael eu penodi am dymor arall pellach o hyd at 4 blynedd.  

 

Ar hyn o bryd, mae dwy sedd wag ar y Pwyllgor Safonau i Aelodau Annibynnol.  Mae hwn yn bwyllgor statudol sy’n chwarae rhan hanfodol o ran cynnal safonau moesegol uchel ar lefel Cynghorau Sirol a Chymuned.  Yn fras, rôl y Pwyllgor yw rhoi cyngor, cymorth a chanllawiau i Aelodau o ran mabwysiadu, monitro, gweithredu, gorfodi ac adolygu Codau Ymddygiad lleol amrywiol, yn benodol Cod Ymddygiad Aelodau a chanllawiau moesegol eraill.  Mae manylion llawn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau yn Adran 8 o Gyfansoddiad y Cyngor a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor.   

 

Caiff Aelodau Annibynnol eu penodi am gyfnod rhwng pedwar a chwech mlynedd a gallent gael eu penodi am dymor arall pellach o hyd at 4 blynedd.  Mae’r Pwyllgor Safonau'n cwrdd rhwng pedwar a chwech gwaith y flwyddyn, er y bydd angen i'r Aelodau Annibynnol o bosibl fod ar gael ar gyfer cyfarfodydd nas trefnwyd ar ddim ond ychydig ddyddiau o rybudd pe byddai angen.

 

Mae’r Pwyllgor Safonau’n cynnwys pum Aelod Annibynnol, tri Cynghorydd Sirol ac un cynrychiolydd o’r Cyngor Cymuned.  Caiff y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd eu hethol o blith Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau.

 

Bydd ymgeiswyr addas yn gallu profi bod y nodweddion a’r priodweddau canlynol ganddynt:

    • Gwrando’n dda ond yn chwilfrydig
    • Gallu pwyso a mesur tystiolaeth sy’n gwrthdaro gan ddod i ganlyniad effeithiol
    • Gallu gweithio’n rhan o dîm
    • Parchu eraill gyda dealltwriaeth o a pharch at werthoedd moesegol cryf
    • Uniondeb a chymeriad da.

 

Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol er y byddai’n fantais pe byddai gan ymgeiswyr posibl ddiddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd cyhoeddus a gwasanaethau.

 

Yn ôl y gyfraith, ni all y bobl ganlynol fod yn Aelod Annibynnol:

  • Cynghorydd neu Swyddog presennol (na phriod neu bartner sifil Cynghorydd neu Swyddog) o Gyngor Bro Morgannwg, Awdurdod Tân ac Achub, Awdurdod Parc Cenedlaethol, neu Gyngor Cymuned / Tref.

  • Cyn-Gynghorwyr neu Swyddogion Cyngor Bro Morgannwg

  • Cyn-Gynghorwyr neu Swyddogion unrhyw Gyngor Sir neu Fwrdeistref Sirol,

  • Awdurdod Tân ac Achub neu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol tan o leia’ flwyddyn ar ôl gorffen bod yn Gynghorydd / Swyddog i’r Awdurdod hwnnw.

  

Efallai y bydd y Panel Penodi yn ystyried y gallu i siarad Cymraeg yn fantais a bydd y Panel yn ystyried yr angen i gyflawni cytbwysedd o sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd ar y Pwyllgor, ynghyd â’r angen i gynrychioli’r gymuned yn ei chyfanrwydd ac i gyflawni cytbwysedd daearyddol o ran cynrychiolaeth ar y Pwyllgor.

 

Yn ogystal, ni ddylai Aelod Annibynnol fod wedi bod ynghlwm mewn modd sylweddol gyda’r Cyngor a allasai effeithio ar eu gallu i fod yn ddi-duedd, a ni ddylent fod â pherthynas agos gydag unrhyw Aelod neu Swyddog o'r Cyngor.

 

Mae’r Cyngor yn gyflogwr ac yn ddarparwr gwasanaethau cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.

 

Mae gan Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau’r hawl i hawlio’r ffioedd canlynol fel Aelodau Cyfetholedig:

  • Cadeirydd – ffi dyddiol £256 (4 awr a mwy) / £128 (hyd at 4 awr)

  • Aelod Arferol - ffi dyddiol £198 (4 awr a mwy) / £99  (hyd at 4 awr).

 

Caiff y taliadau hyn eu capio ar uchafswm sydd gyfwerth â 10 diwrnod llawn i unigolyn, mae'r taliadau ar gyfer amser y cyfarfod ac yn cynnwys yr amser a dreulir ar baratoi a theithio.  At ddiben unrhyw hawl, caiff cyfarfod hanner diwrnod ei ddiffinio yn rhywbeth hyd at 4 awr, a diffinnir diwrnod llawn yn rhywbeth dros 4 awr.

 

Yn ychwanegol, mae darpariaeth ar gyfer ad-dalu costau angenrheidiol ar gyfer gofalu am blant ac oedolion dibynnol (a ddarperir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) hyd at uchafswm o £403 y mis.  Bydd yr ad-daliad yn cael ei wneud dim ond pan oedd y gofal yn angenrheidiol i alluogi person y byddai ei allu i gymryd rhan yn gyfyngedig oherwydd ei gyfrifoldeb fel gofalwr, ond dim ond wrth gyflwyno derbynebau gan y gofalwr y bydd yr ad-daliad yn cael ei wneud.

 

Pecyn Cais

  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 23 Tachwedd, 2018

 

I gael ffurflen gais, rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Debbie Marles, Swyddog Monitro:

  

Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod pythefnos gyntaf Rhagfyr 2018.

 

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn y swydd o 13 Mawrth, 2019.