Cost of Living Support Icon

 

Cartrefi'r Fro yn nodi llwyddiant Clwb Beicio'r Barri gyda noson gwobrwyo

Derbyniodd aelodau Clwb Beicio yn Nhŷ Iolo, y Barri, gwobrau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf, yn sesiwn olaf y clwb yn 2018.

 

  • Dydd Llun, 05 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



Ar ddydd Mawrth 23 Hydref, Ymunodd y Cynghorydd Maer Bro Morgannwg Leighton Rowlands, â Miles Punter, Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Amgylchedd a Thai a Mike Ingram, Pennaeth Gwasanaethau Tai ac Adeiladu,  i nodi’r digwyddiad.

 

Cyflwynwyd Clwb Beicio'r Barri am y tro cyntaf yn ardal chwarae Tŷ Iolo, drwy raglen Cymunedau yn Gyntaf y Fro. Nod y clwb oedd lleihau anghyfiawnderau ym maes iechyd drwy hyrwyddo gweithgarwch corfforol.

Dysgodd y plant sut i feicio'n ddiogel mewn amgylchedd oddi ar y ffordd, sut i gydbwyso drwy sgwtio, sut i ddechrau a stopio’n ddiogel ac ymarfer troi gan ddefnyddio conau.

 

Ailwampiwyd y Clwb Beicio ym mis Ebrill eleni, ac mae'r sesiynau wedi denu mwy nag 89 o blant i ardal chwarae Tŷ Iolo. Mae'r llwyddiant hwn wedi arwain at bartneriaeth newydd rhwng Cartrefi’r Fro (y Tîm Buddsoddi Cymunedol), Newydd a Datblygiad Chwaraeon a Chwarae Bro Morgannwg, gyda Pedal Power, sefydliad elusen beicio lleol sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.

 

Bydd Clwb Beicio newydd yn cael ei lansio yn Sain Tathan y flwyddyn nesaf, a bydd Clwb Beicio’r Barri yn ail-ddechrau ym mis Ebrill 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd Leighton Rowlands, Maer y Fro: "Roedd yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan ac mae'r clwb yn mynd o nerth i nerth, a dwi hyd yn oed wedi penderfynu cael dro ar feic fy hun er mwyn ymuno â nhw."

 Barry Bike Club members at the last 2018 session

 

 

 

Dywedodd Mark Ellis Swyddog Buddsoddi Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg: "Ar ôl bod yn rhan o'r project hwn mewn rôl flaenorol, roeddwn wrth fy modd o weld y Clwb Beicio’n dychwelyd. Mae cynnwys dros 85 o blant lleol a'u rhieni yn y prosiect wedi bod yn wych ac rwy'n gobeithio defnyddio Credydau Amser i annog mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan y flwyddyn nesaf.

 

"Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at gael Pedal Power yn rhan o'r gwaith o sefydlu Clwb Beicio newydd yn Sain Tathan ynghyd â pharhau â Chlwb Beicio’r Barri gwych sy'n ailddechrau yng Ngwanwyn 2019."