Cost of Living Support Icon

 

Y Fro yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2018

Bydd y Fro yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2018 (DHG) ar ddydd Gwener 30 Tachwedd, gyda sesiynau galw heibio a gwybodaeth ar gael i ofalwyr ledled y sir.

 

  • Dydd Mercher, 28 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg


 

Carers Rights Day logo Welsh

 

Mae’r Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn ddigwyddiad blynyddol, sy’n dod â sefydliadau ledled y DU ynghyd, sy’n helpu gofalwyr yn eu cymuned leol i wybod eu hawliau a dysgu sut i gael y cymorth y mae ganddynt hawl ei gael.   

 

Mae tua 370,000 o ofalwyr ledled Cymru sydd, heb dâl, yn helpu rhywun annwyl sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael. 

 

Ar 1 Tachwedd eleni, Canolfan Iechyd y Bont-faen oedd y feddygfa gyntaf i feddygon teulu yn y Fro i dderbyn Achrediad Gofalwyr Meddygon Arian.

 

Certificate presentation

Renae Crockford yw’r Hyrwyddwr Gofalwyr yng Nghanolfan Iechyd Y Bont-faen, fel rhan o Bractis Teuluoedd Gorllewin y Fro. 

 

Dywedodd Renae: “Rwyf wedi bod yn Hyrwyddwr Gofalwyr am ddwy flynedd ac rwy’n rhan o’r tîm nyrsio.  Rwy’n frwd am helpu pobl cymaint ag y gallwn.  Mae llawer o’r gwaith rwy’n ei wneud yn cynnwys cyfeirio cymdeithasol o ran yr help a gynigiwn, oherwydd bod pobl yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw le i fynd. 

 

“Mae gennym lawer o gymorth ar gael yn y Fro ac roedd fy swydd yn cynnwys cysylltu cleifion a’u gofalwyr gyda’r gwasanaethau hyn.

 

“Roeddem eisoes wedi derbyn achrediad lefel efydd, ond pan wnes i gymryd y rôl Hyrwyddwr Gofalwyr, roedd yn glir ein bod yn gwneud digon i gael achrediad lefel arian.  Fe wnaethon ni ddathlu Wythnos Gofalwyr ym Mehefin eleni, ac roedd nifer o bobl yn yr ystafell aros yn aros am wybodaeth a chymorth, ac i ddysgu mwy, roedd e’n llwyddiannus iawn.”

 

Mae’r Fro yn bwriadu nodi DHG drwy gynnig cymorth o stondinau wybodaeth, a sessiynau galw heibio, yn yr archfarchnadoedd canlynol:

 

  • Asda, Ffordd y Mileniwm, Y Barri, rhwng 10am-4pm

  • Morrisons, Heol Ceiniog, Y Barri, rhwng 10am-4pm

  • Waitrose, Heol Palmerston, Y Barri, rhwng 10am-12pm

 

Mae gofalwyr yn gallu derbyn gwybodaeth, help a chymorth neu ofyn unrhyw gwestiynau.

 

Gallwch darllen mwy ar Hawliau Gofalwyr, gwybodaeth a hyfforddiant ar lein