Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg i nodi Diwrnod y Cadoediad  

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dal i gefnogi’r Lleng Brydeinig Frenhinol drwy gynnal seremoni gosod torch i nodi Diwrnod y Cadoediad ar ddydd Gwener 9 Tachwedd 2018. 

  • Dydd Iau, 08 Mis Tachwedd 2018

    Barri



Civic offices and poppy pin

 

Cynhelir gwasanaeth byr, ynghyd â dwy funud o dawelwch, yng Nghwrt Blaen y Swyddfa Ddinesig, y Barri, o flaen Cofeb y Morwyr Masnachol, gan ddechrau am 10.45am. 


Bydd y Maer, y Rheolwr Gyfarwyddwr ac arweinwyr gwleidyddol ynghyd â chynrychiolwyr sefydliadau lleol yn gosod torchau i gofio’r sawl fu farw.

 

Mae’r seremoni ar agor i bawb ac anogir aelodau’r cyhoedd i fynychu a thalu teyrnged. Nodir dechrau a diwedd y tawelwch drwy ganiadau’r corn.