Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgell y Barri’n gwobrwyo 200 o blant am gwblhau Her Ddarllen Yr Haf

Cafodd plant ysgolion cynradd o bob rhan o’r Fro eu gwobrwyo am ddarllen chwe llyfr yn Her Creu Direidi: Her Ddarllen Yr Haf eleni.

 

  • Dydd Mercher, 10 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Ar ddydd Llun 8 Hydref, cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, y Cyng. Bob Penrose a Maer y Fro Cyng. Leighton Rowlands, dystysgrifau i ddisgyblion, i nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Llyfrgelloedd.

 

Mwynhaodd disgyblion ysgolion cynradd y Fro’n digwyddiad, a gynhaliwyd yn llyfrgell y Barri, a ddechreuodd â sioe hud gan difyrrwr plant.

 

Mae digwyddiad eleni’n canolbwyntio ar les, a bydd llyfrgelloedd yn arddangos sut maen nhw’n dod â chymunedau ynghyd, i fynd i’r afael ag unigrwydd, rhoi man darllen a chreadigol a chefnogi pobl ag iechyd meddwl.

 

 children at summer reading challenge

 

 

Cynhelir Her Ddarllen yr Haf bob blwyddyn yn ystod y gwyliau haf. 

 

Mae’r sialens yn cynnwys darllen chwe llyfr llyfrgell o’ch dewis i gwblhau’r her, ac mae gwobrau arbennig i’w casglu ar hyd y ffordd.

 

Mae Wythnos y Llyfregelloedd yn digwydd o 8-13 Hydref, ac yn dathlu llyfrgelloedd ar draws y DU.


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant y Cyng. Bob Penrose: “Roedd yn braf clywed bod 200 o blant wedi cwblhau a mwynhau Her Ddarllen Yr Haf eleni.

 

"Mae’n hanfodol i blant ddeall pwysigrwydd darllen o oedran cynnar. Mae heriau darllen yn ffordd wych o roi’r pŵer i blant greu eu rhestrau darllen eu hunain dros wyliau’r haf.”