Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn helpu masnachwyr canol tref Y Barri i archwilio posibilrwydd Ardal Gwella Busnes

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn helpu masnachwyr yn Y Barri i archwilio posibilrwydd gwneud canol y dref yn Ardal Gwella Busnes (BID).

 

  • Dydd Iau, 11 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Cynhaliwyd trafodaethau i’r cyfleodd a’r peryglon y byddai trefniant o ‘r fath yn eu creu yn gynharach yn y flwyddyn ar ôl i fusnesau lleol benderfynu i edrych a r cynnig yn fwy manwl.

 

Wedyn gwnaeth y Cyngor cais i Lywodraeth Cymru i gael cyllid, y mae’n ei gydweddu, i ymgymryd adroddiad allanol i ddadansoddi sy'n wynebu canol y dref ac argymhell a yw BID yn briodol.

 

Bydd yr astudiaeth yn archwilio a allai BID helpu i fynd i’r afael â materion sy’n wynebu canolfannau siopa Heol Holltwn a’r Heol Fawr a hefyd i adnabod ffyrdd o daro yn erbyn siopau gwag a gwella hyfywedd y lleoliad.

 

Eir i’r afael ag ef gan y Mosaic Partnership, sy’n dîm ymgynghori amrywiol sydd wedi datblygu atebion ymarferol i wella ac adfywio canol trefi yn y DU ac o gwmpas y byd.

 

Mae'r grŵp wedi creu proses tri cham llwyddiannus i arwain lleoliadau trwy ddichonolrwydd, datblygu BID ac adeiladu ymgyrch.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig cefnogaeth arall i fusnesau canol trefi, gan gynnwys Rhaglen Grantiau Masnachol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio:

 

“Ym mis Ionawr cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg gyfarfod i fasnachwyr Y Barri  i glywed am fuddion a pheryglon sefydlu Ardal Gwella Busnes.  Bu cyfle i ddysgu am sut mae BIDs wedi gweithio mewn rhannau eraill o’r DU a’r buddion a godwyd ar gyfer y busnesau lleol.

 

“Yn dilyn y cyfarfod hynny, penderfynodd y masnachwyr archwilio y posibilrwydd ac felly rydym wedi helpu i gomisiynu’r astudiaeth hwn.

 

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau canol trefi. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gamau rydym wedi’u cymryd i hyrwyddo'r ardaloedd hyn, gyda digwyddiadau ac adnewyddiadau i flaenau siopau a strydoedd ymhlith y rhai eraill."

 

Hefyd bydd y Cyngor yn gwahodd busnesau a pherchnogion eiddo lleol i uwchgynhadledd canol y dref fis Tachwedd i helpu i nodi ffyrdd eraill o wella’r ardal.